Ioan 9:35-41
Ioan 9:35-41 CJW
Clybu Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan, a gwedi iddo gyfarfod ag ef, efe á ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu yn Mab Duw? Yntau á atebodd, Pwy yw efe, Sỳr, fel y credwyf ynddo? Iesu á ddywedodd wrtho, Nid yn unig ti á’i gwelaist ef; ond efe yw yr hwn sydd yn ymddyddan â thi. Yntau á lefodd, O Feistr, yr wyf yn credu; ac à ymgrymodd o’i flaen ef. A dywedodd Iesu, Er barn y daethym i i’r byd hwn, fel y gwelai y rhai nid ydynt yn gweled; ac yr elai y rhai sydd yn gweled, yn ddeillion. Rhai o’r Phariseaid à oedd yn bresennol, wedi clywed hyn, á ddywedasant wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion? Iesu á atebodd, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: ond meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hyny y mae eich pechod yn aros.