Luwc 24:36-49

Luwc 24:36-49 CJW

Tra yr oeddynt yn ymddyddan fel hyn, efe á safodd yn eu canol hwynt, ac á ddywedodd, Tangnefedd i chwi. Hwythau á gymerasant fraw ac á ofnasant, gàn ddychymygu weled o honynt ysbryd. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Paham ych cythruddir? a phaham y mae meddyliau ammheüus yn codi yn eich calonau? Edrychwch fy nwylaw a’m traed; myfi fy hun ydyw; teimlwch fi a choeliwch; canys nid oes gàn ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch bod gènyf fi. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á ddangosodd iddynt ei ddwylaw a’i draed. Ac a hwy eto heb gredu gàn lawenydd a syndod, efe á ddywedodd wrthynt, A oes gènych chwi yma ddim bwyd? A hwy a roddasant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mel, yr hwn á gymerodd efe, ac á’i bwytäodd yn eu gwydd hwynt. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn à ddywedais i wrthych, tra yr oeddwn yn aros gyda chwi, bod yn raid cyflawni pob peth à ysgrifenwyd yn nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r Salmau, am danaf fi. Yna yr agorodd efe eu meddyliau hwynt, fel y deallent yr ysgrythyrau; ac á ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, a felly yr oedd raid i’r Messia ddyoddef, a chyfodi oddwrth y meirw y trydydd dydd; a chyhoeddi diwygiad a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mhlith pob cenedl, gàn ddechreu yn Nghaersalem. Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn; ac wele yr wyf fi yn anfon i chwi yr hyn à addawodd fy Nhad; eithr aroswch chwi yn y ddinas hon, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.