Ioan 9

9
Iesu’n iacháu dyn wedi’i eni’n ddall
1Un diwrnod roedd Iesu’n pasio heibio, a gwelodd ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni. 2Gofynnodd y disgyblion iddo, “Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i’r dyn yma gael ei eni’n ddall – fe ei hun, neu ei rieni?”
3“Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy’n gyfrifol,” meddai Iesu. “Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd. 4Tra mae hi’n dal yn olau dydd, rhaid i ni wneud gwaith yr un sydd wedi fy anfon i. Mae’r nos yn dod, pan fydd neb yn gallu gweithio. 5Tra dw i yn y byd, fi ydy golau’r byd.”
6Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o’r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall. 7Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy’n golygu ‘Anfonwyd’). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld!
8Dyma’i gymdogion a phawb oedd wedi’i weld o’r blaen yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy’r dyn oedd yn arfer cardota?” 9Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage – er, mae’n debyg iawn iddo.”
Ond dyma’r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.”
10“Ond, sut wyt ti’n gallu gweld?” medden nhw.
11“Y dyn maen nhw’n ei alw’n Iesu wnaeth fwd a’i rwbio ar fy llygaid,” meddai. “Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i’n gallu gweld!”
12“Ble mae e?” medden nhw.
“Wn i ddim,” meddai.
Y Phariseaid yn archwilio’r iachâd
13Dyma nhw’n mynd â’r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid. 14Roedd hi’n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu’r dyn. 15Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn dechrau holi’r dyn sut roedd e’n gallu gweld.
Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i’n gweld.”
16Meddai rhai o’r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw; dydy e ddim yn cadw rheolau’r Saboth.”
Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy’n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw’n anghytuno â’i gilydd.
17Yn y diwedd dyma nhw’n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i’w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.”
Atebodd y dyn, “Mae’n rhaid ei fod yn broffwyd.”
18Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i’w rieni ddod yno. 19“Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni’n ddall? Ac os felly, sut mae e’n gallu gweld nawr?”
20“Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni’n gwybod ei fod wedi cael ei eni’n ddall. 21Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae’n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae’n ddigon hen! Gall siarad drosto’i hun.” 22(Y rheswm pam roedd ei rieni’n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai’n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o’r synagog. 23Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae’n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”)
24Dyma nhw’n galw’r dyn oedd wedi bod yn ddall o’u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho, “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni’n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.”
25Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e’n bechadur a’i peidio, ond dw i’n hollol sicr o un peth – roeddwn i’n ddall, a bellach dw i’n gallu gweld!”
26Dyma nhw’n gofyn iddo eto, “Beth yn union wnaeth e? Sut agorodd e dy lygaid di?”
27Atebodd y dyn, “Dw i wedi dweud unwaith, a dych chi ddim wedi gwrando. Pam dych chi eisiau mynd drwy’r peth eto? Ydych chi hefyd eisiau bod yn ddilynwyr iddo?”
28Dyma nhw’n rhoi pryd o dafod iddo, “Ti sy’n ddilynwr i’r boi! Disgyblion Moses ydyn ni! 29Dŷn ni’n gwybod fod Duw wedi siarad â Moses, ond wyddon ni ddim byd am hwn – dim hyd yn oed o ble mae’n dod!”
30“Wel, mae hynny’n anhygoel!” meddai’r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae’n dod. 31Dŷn ni’n gwybod bod Duw ddim yn gwrando ar bechaduriaid, ond ar bobl dduwiol sy’n gwneud beth mae e eisiau. 32Does neb erioed wedi clywed am rywun yn agor llygaid person gafodd ei eni’n ddall! 33Oni bai fod y dyn wedi dod oddi wrth Dduw, allai e wneud dim byd.”
34“Wyt ti’n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw’n ei ddiarddel.
Dallineb Ysbrydol
35Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti’n credu ym Mab y Dyn?”
36“Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai’r dyn. “Dwed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.”
37Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi’i weld; fi sy’n siarad â ti ydy e.”
38Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i’n credu,” a phlygu o’i flaen i’w addoli.
39Dwedodd Iesu, “Mae’r ffaith fy mod i wedi dod i’r byd yn arwain i farn. Mae’r rhai sy’n ddall yn cael gweld a’r rhai sy’n gweld yn cael eu dallu.”
40Roedd rhai o’r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?”
41Atebodd Iesu, “Petaech chi’n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi’n euog, ac yn aros felly.

Արդեն Ընտրված.

Ioan 9: bnet

Ընդգծել

Կիսվել

Պատճենել

None

Ցանկանու՞մ եք պահպանել ձեր նշումները ձեր բոլոր սարքերում: Գրանցվեք կամ մուտք գործեք