Luc 18:7-8

Luc 18:7-8 BNET

Dych chi’n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e’n amddiffyn y bobl mae wedi’u dewis iddo’i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i’r rhai sy’n galw arno ddydd a nos! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”