Luc 24
24
Yr Atgyfodiad
(Mathew 28:1-10; Marc 16:1-8; Ioan 20:1-10)
1Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda’r perlysiau roedden nhw wedi’u paratoi. 2Dyma nhw’n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi’i rholio i ffwrdd, 3a phan aethon nhw i mewn i’r bedd doedd y corff ddim yno! 4Roedden nhw wedi drysu’n lân, ond yna’n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl. 5Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n plygu gyda’u hwynebau ar lawr o’u blaenau. Yna dyma’r dynion yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi’n edrych mewn bedd am rywun sy’n fyw? 6Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? 7Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai’n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e’n dod yn ôl yn fyw.” 8A dyma nhw’n cofio beth roedd wedi’i ddweud. 9Felly dyma nhw’n gadael y bedd a mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr un ar ddeg disgybl a phawb arall.
10Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a’r lleill gyda nhw, i ddweud yr hanes wrth yr apostolion. 11Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw – roedden nhw’n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr. 12Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i’r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno’n wag. Gadawodd y bedd yn methu’n lân a deall beth oedd wedi digwydd.#24:12 wedi digwydd: Dydy adn. 12 ddim yn rhai llawysgrifau.
Ar y ffordd i Emaus
(Marc 16:12-13)
13Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem. 14Roedden nhw’n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd. 15Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu’n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw. 16Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi’u rhwystro rhag ei nabod e.
17Gofynnodd iddyn nhw, “Am beth dych chi’n dadlau gyda’ch gilydd?” Dyma nhw’n sefyll yn stond. (Roedd eu tristwch i’w weld ar eu hwynebau.) 18A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, “Mae’n rhaid mai ti ydy’r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!” 19“Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi’i weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol. 20Ond dyma’r prif offeiriaid a’r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a’i drosglwyddo i’r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a’i groeshoelio. 21Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe – Ond mae yna fwy … 22Yn gynnar y bore ma dyma rai o’r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod, 23ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw’n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu’n fyw. 24Felly dyma rai o’r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.”
25“Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau roedd e’n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi’n ei chael hi mor anodd i gredu’r cwbl ddwedodd y proffwydi? 26Maen nhw’n dweud fod rhaid i’r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!” 27A dyma Iesu’n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a’r proffwydi eraill wedi’i ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.
28Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu’n dweud ei fod e’n mynd yn ei flaen. 29Ond dyma nhw’n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae’n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.
30Pan oedden nhw’n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd y weddi o ddiolch cyn ei thorri a’i rhannu iddyn nhw. 31Yn sydyn dyma nhw’n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a’r foment honno diflannodd o’u golwg. 32Dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni’n teimlo rhyw wefr, fel petai’n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”
33Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw’n dod o hyd i’r un ar ddeg disgybl a phawb arall gyda nhw, 34a’r peth cyntaf gafodd ei ddweud wrthyn nhw oedd, “Mae’n wir! Mae’r Arglwydd wedi dod yn ôl yn fyw. Mae Simon Pedr wedi’i weld!” 35Yna dyma’r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri’r bara.
Iesu’n ymddangos i’r disgyblion
(Mathew 28:16-20; Marc 16:14-18; Ioan 20:19-23; Actau 1:6-8)
36Roedden nhw’n dal i siarad am y peth pan ddaeth Iesu a sefyll yn y canol. “Shalôm!”#24:36 Shalôm: Cyfarchiad Iddewig sy’n golygu, “Heddwch i chi!”. meddai wrthyn nhw.
37Roedden nhw wedi cael braw. Roedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n gweld ysbryd. 38Ond dyma Iesu’n gofyn iddyn nhw, “Beth sy’n bod? Pam dych chi’n amau pwy ydw i? 39Edrychwch ar fy nwylo a’m traed i. Fi sydd yma go iawn! Cyffyrddwch fi. Byddwch chi’n gweld wedyn mai dim ysbryd ydw i. Does gan ysbryd ddim corff ag esgyrn fel hyn!” 40Roedd yn dangos ei ddwylo a’i draed iddyn nhw wrth ddweud y peth.
41Roedden nhw’n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu’r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Oes gynnoch chi rywbeth i’w fwyta yma?” 42Dyma nhw’n rhoi darn o bysgodyn wedi’i goginio iddo, 43a dyma Iesu’n ei gymryd a’i fwyta o flaen eu llygaid.
44Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o’n i gyda chi, dwedais fod rhaid i’r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau’r Proffwydi a’r Salmau, ddod yn wir.” 45Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall. 46“Mae’r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. 47Rhaid cyhoeddi’r neges yma yn Jerwsalem a thrwy’r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw’n barod i faddau iddyn nhw. 48Chi ydy’r llygad-dystion sydd wedi gweld y cwbl! 49Felly dw i’n mynd i anfon beth wnaeth fy Nhad ei addo i chi – arhoswch yma yn y ddinas nes i’r Ysbryd Glân ddod i lawr a’ch gwisgo chi gyda nerth.”
Iesu’n mynd yn ôl i’r nefoedd
(Marc 16:19,20; Actau 1:9-11)
50Yna dyma Iesu’n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i’w bendithio nhw 51cafodd ei gymryd i ffwrdd i’r nefoedd, 52ac roedden nhw’n ei addoli. Wedyn dyma nhw’n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen, 53a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw.
Արդեն Ընտրված.
Luc 24: bnet
Ընդգծել
Կիսվել
Պատճենել
Ցանկանու՞մ եք պահպանել ձեր նշումները ձեր բոլոր սարքերում: Գրանցվեք կամ մուտք գործեք
© Cymdeithas y Beibl 2023