Daeth Iesu i'r tŷ, a daeth tyrfa fawr unwaith eto, fel nad oedd yn bosibl iddyn nhw gael cymaint â phryd o fwyd. Pan glywodd ei deulu, aethon nhw allan i'w rwystro, am fod y bobl yn dweud: “Mae e wedi drysu.” Roedd yr ysgrifenyddion a ddaeth i lawr o Jerwsalem hefyd yn dweud, “Mae Beelsebwl ynddo ac mae'n bwrw allan gythreuliaid yn enw pennaeth y cythreuliaid.” Galwodd Iesu'r ysgrifenyddion ato a dwedodd y damhegion hyn wrthyn nhw: “Sut y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas wedi'i rhannu yn ei herbyn ei hunan, ni all y deyrnas honno fyth sefyll. Os bydd tŷ wedi'i rannu yn ei erbyn ei hunan, ni all y tŷ hwnnw fyth sefyll. Os ydy Satan wedi codi yn ei erbyn ei hunan ac ymrannu, ni all yntau sefyll chwaith; mae ar ben arno. Cyn y gall neb dorri i mewn i gartref dyn cryf a dinistrio'i gelfi, mae'n rhaid iddo'i rwymo yn gyntaf, ac yna ddistrywio'r lle. Credwch fi, rydw i'n dweud y gwir, maddeuir popeth i bawb; eu pechodau a'u cableddau i gyd; ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff hwnnw faddeuant byth; mae e'n euog o bechod diderfyn.” Dwedodd Iesu hyn am fod rhai ohonyn nhw'n dweud bod ysbryd drwg ynddo.