Marc 1:16-20

Marc 1:16-20 DAW

Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau bysgotwr, Simon a'i frawd Andreas yn taflu rhwyd i'r môr. Dwedodd Iesu, “Dilynwch fi, a dysgaf chi i ddal pobl.” A dyma nhw'n gadael eu rhwydau ar unwaith a'i ddilyn. Wedi iddo fynd ymlaen ychydig, gwelodd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, wrthi'n trwsio'r rhwydau yn y cwch. Galwodd Iesu nhw, ac aethon nhw gydag e gan adael eu tad yn y cwch gyda'r gweision.

Rencana Bacaan dan Renungan gratis terkait dengan Marc 1:16-20