Marc 1:1-8

Marc 1:1-8 DAW

Dyma ddechrau'r Newyddion Da ynglŷn â Iesu Grist, Mab Duw. Soniodd Eseia'r proffwyd amdano fel hyn: “Dwedodd Duw, ‘Anfonaf fy negesydd o dy flaen i baratoi dy ffordd.’ Mae un yn cyhoeddi yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau'n unionsyth.’ ” Digwyddodd Ioan Fedyddiwr fod yn yr anialwch yn bedyddio a phregethu gan ddweud wrth y bobl, “Trowch oddi wrth eich pechodau, bedyddier chi, a bydd Duw yn maddau i chi.” Aeth llawer o ardal Jwdea a dinas Jerwsalem allan ato, ac ar ôl cyffesu eu pechodau, cawson nhw eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen. Roedd Ioan wedi'i wisgo mewn dillad o flew camel gyda gwregys o groen am ei ganol; locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. Dyma oedd ei neges: “Mae un cryfach na fi yn dod ar fy ôl i. Dydw i ddim yn deilwng i blygu lawr i dynnu'i esgidiau. Bedyddiais i chi gyda dŵr, ond bydd e'n eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân.”

Rencana Bacaan dan Renungan gratis terkait dengan Marc 1:1-8