Marc 2:23-28

Marc 2:23-28 DAW

Un Saboth, pan oedd Iesu a'i ddisgyblion yn cerdded drwy'r caeau ŷd, dechreuodd rhai ohonyn nhw dynnu'r tywysennau. Gofynnodd y Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion di'n torri'r Gyfraith ar y Saboth?” Atebodd Iesu, “Ydych chi erioed wedi darllen am beth wnaeth Dafydd, pan oedd ef a'i ddynion eisiau bwyd? Aeth i mewn i dŷ Dduw, yn ystod cyfnod yr archoffeiriad Abiathar, a bwyta'r torthau cysegredig nad oedd hawl gan neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe'u rhoddodd nhw hefyd i'w ddynion.” Dwedodd Iesu, “Mae'r Saboth wedi'i wneud er ein mwyn ni, ac nid ni er mwyn y Saboth. Yn yr un modd mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth hefyd.”

Rencana Bacaan dan Renungan gratis terkait dengan Marc 2:23-28