Matthew Lefi 1:18-25

Matthew Lefi 1:18-25 CJW

A genedigaeth Iesu Grist á ddygwyddodd fel hyn: Mair ei fam ef á ddyweddiasid â Ioseph: ond cyn eu dyfod yn nghyd, hi á gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glan. Ioseph ei gŵr hi, gan ei fod yn ddyn rhinweddol, ac yn anfoddlon iddei gwaradwyddo hi, á fwriadai ei hysgaru hi yn ddirgel. Ond tra y meddyliai efe am hyn, angel i’r Arglwydd á ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, ac á ddywedodd, Ioseph, mab Dafydd, na phetrusa gymeryd adref Mair dy wraig; canys ei beichiogiad sydd oddwrth yr Ysbryd Glan. A hi á esgor àr fab, yr hwn á elwi Iesu, oblegid efe á wared ei bobl oddwrth eu pechodau. Yn hyn oll, gwireddwyd yr hyn à ddywedasai yr Arglwydd drwy y Proffwyd, “Wele y forwyn á feichioga, ac á esgor àr fab, yr hwn á elwir Immanwel;” yr hyn sydd yn arwyddocâu, Duw gyda ni. Pan ddeffroes Ioseph, efe á wnaeth fel y gorchymynasai cènad yr Arglwydd iddo, ac á gymerodd adref ei wraig; ond nid adnabu efe hi, hyd oni esgorasai hi àr ei mab cyntafanedig, yr hwn á enwodd efe Iesu.