Matthew Lefi 2:1-6

Matthew Lefi 2:1-6 CJW

Gwedi genedigaeth Iesu, yn Methlehem Iuwdëa, yn nheyrnasiad Herod frenin, rhai o’r magiaid dwyreiniol á ddaethant i Gaersalem, ac á ymofynasant, Pa le y mae Brenin yr Iuddewon sy newydd ei eni; canys gwelsom ei seren ef yn ngwlad y dwyrain, ac yr ydym wedi dyfod i warogaethu iddo? Herod frenin wedi clywed hyn, á gythruddwyd, a holl Gaersalem gydag ef. A gwedi cynnull yn nghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe á ymofynodd â hwynt pa le y genid y Messia. Hwythau á atebasant, yn Methlehem Iuwdëa, canys fel hyn yr ysgrifenwyd gàn y Proffwyd, “A thithau Fethlehem, yn nghantref Iuwda, nid y leiaf enwog wyt yn mhlith dinasoedd Iuwda; canys o honot y daw llywydd, yr hwn á lywodraetha fy mhobl Israel.”