Matthew Lefi 2:7-12

Matthew Lefi 2:7-12 CJW

Yna Herod wedi galw y magiaid yn ddirgel, á ’u holodd hwynt yn fanwl yn nghylch amser ymddangosiad y seren. A chàn eu hanfon hwynt i Fethlehem, efe á ddywedodd, Ewch, gwnewch ymofyniad manwl yn nghylch y plentyn, a gwedi i chwi ei gael ef, dygwch air i mi, fel yr elwyf finnau hefyd, a gwarogaethu iddo. Gwedi clywed y brenin, hwy á ymadawsant; ac wele! y seren à ymddangosasai iddynt yn ngwlad y dwyrain, á symudai o’u blaen hwynt, hyd oni ddaeth, a sefyll uwch y fan, lle yr oedd y plentyn. Pan welsant y seren eilwaith, hwy á lawenychasant yn ddirfawr. A gwedi eu dyfod i’r tŷ, hwy á ganfuant y plentyn gyda Mair ei fam; a chàn ymgrymu à warogaethasant iddo. Yna, gwedi agor eu cistanau, hwy á offrymasant yn anrhegion iddo, aur, thus, a mỳr. A gwedi eu rhybyddio mewn breuddwyd i beidio dychwelyd at Herod, hwy á aethant adref ffordd arall.