Logo YouVersion
Icona Cerca

I Versetti Biblici più popolari da Salmau 23

Yn ddiau y mae daioni a chariad Yn erlid ar fy ôl holl ddyddiau fy mywyd, A phreswyliaf yn nhŷ Iehofa Trwy gydol fy oes. SALM XXIII Y GÂN grefyddol fwyaf poblogaidd yn mynegi amddiffyn sicr Iehofa. Ofer ydyw ceisio mesur a phwyso ei gafael hi ar fywydau dynion erioed. Cytunir bellach nad ‘Y Bugail’ ydyw’r unig ddarlun o Dduw sydd yma, ond darlunnir Ef hefyd fel Arweinydd a ddug ei gydymaith i ddiogelwch drwy geunentydd enbyd a thywyll. Yn y pennill olaf Duw ydyw’r Gwestywr Mawr a’r Gwestywr perffaith nad oes terfyn ar ei groeso. 1. Am ddefnyddio’r ffigur hwn gwêl, Gen. 48:15, 49:24; Mic. 7:14; Es. 49:9-10; Salm 80:2. Hefyd yn y T.N. Luc 15:3-7 a Ioan 10:1-16. 2. ‘Dyfroedd gorffwys’ — y pydewau a’r ffynhonnau y dyfrheir y diadelloedd ohonynt. 3. Newidir y ffigur yn yr adnod hon, Iehofa ydyw’r Arweinydd sy’n arwain y teithiwr ar hyd lwybrau diwyro. ‘Er mwyn Ei enw’, — er mwyn Ei gymeriad a’i anrhydedd. Mater o anrhydedd i Dduw ydyw rhoddi arweiniad diogel. 4. ‘Y ceunant tywyll du’, neu yn ôl yr hen gyfieithiad, ‘Glyn cysgod Angau’ sydd mor anodd canu’n iach ag ef, gan mor ddwfn y gwewyd yr ymadrodd i brofiad y saint a’r mynegiant ohono. “Tywyllwch neu gaddug” ydyw ystyr yr ymadrodd a gyfieithir yn ‘Gysgod Angau’. Disgrifiad byw o fynydd-dir Iwdea, sydd yn frith o geunentydd cadduglyd a’u mynych ogofau sy’n lloches lladron ac anifeiliaid gwylltion. ‘Dy bastwn a’th ffon’, — nid y bugeilffon, ond y pastwn a garia’r Arweinydd fel arf amddiffyn, a’r ffon sydd ganddo i bwyso arni a hybu ei gerddediad. 5. Yma newid y ffigur drachefn i Iehofa fel Gwestywr. Ni all gelynion y Salmydd beri dim niwed iddo. Yn ôl defodau’r Dwyrain y mae nawdd y gwestywr drosto, ac yn ôl defod y Dwyrain eto eneinir y gwestai ag olew perarogleuol, a digrintach ydyw’r cwpan gwin croeso a roir iddo. Nid oes grintachrwydd ar fwrdd brenhinol Iehofa. 6. Nid gwestai unnos ydyw gwestai yr Arglwydd, ond gwestai a drig fyth yn ei Deml, a chariad a daioni yn glynu wrtho yn gyndyn i weinyddu arno ym mhob dymuniad. 1. Ceisiwch roddi cyfrif am afael y Salm hon ar galonnau dynion erioed. 2. Pa un o’r tri darlun ydyw’r hyfrytaf gennych, — Duw fel Bugail, Duw fel Arweinydd, a Duw fel Gwestywr? Pa un sydd fwyaf gwir yn eich profiad personol chwi? 3. Ystyriwch syniad beiddgar yr adnod olaf, sef y syniad o Dduw yn ERLID dyn fel y mae gelyn yn erlid, ond â daioni a chariad. Cymherwch hyn â chân fawr Francis Thompson, “Bytheiad y Nef”.

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Salmau 23