Logo YouVersion
Icona Cerca

Matthew Lefi 5:43-48

Matthew Lefi 5:43-48 CJW

Clywsoch y dywedwyd, “Câr dy gymydog, a chasâa dy elyn.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, cerwch eich gelynion; bendithiwch y rhai à’ch melldithiant; gwnewch dda i’r rhai à’ch casâant; a gweddiwch dros y rhai à ch camgyhuddant, ac á ’ch erlidiant; fel y byddoch blant i’ch Tad yn y nefoedd, yr hwn á wna iddei haul godi àr ddrwg a da, ac á wlawia àr gyfiawn ac annghyfiawn. Canys os cerwch yn unig y sawl à ’ch carant, pa obr á allwch ddysgwyl? Oni wna hyd yn nod y tollwyr felly? Ac os anerchwch eich brodyr yn unig, yn mha beth yr ydych yn rhagori? Onid yw hyd yn nod y Paganiaid yn gwneuthur cymaint? Byddwch chwi, gàn hyny, berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.