1
Diarhebion 3:5-6
beibl.net 2015, 2024
bnet
Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.
比較
Diarhebion 3:5-6で検索
2
Diarhebion 3:7
Paid meddwl dy fod ti’n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni.
Diarhebion 3:7で検索
3
Diarhebion 3:9-10
Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu’r ARGLWYDD; rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn, a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin.
Diarhebion 3:9-10で検索
4
Diarhebion 3:3
Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon.
Diarhebion 3:3で検索
5
Diarhebion 3:11-12
Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, na thorri dy galon pan mae e’n dy gywiro di. Achos mae’r ARGLWYDD yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru, fel mae tad yn cosbi’r plentyn mae mor falch ohono.
Diarhebion 3:11-12で検索
6
Diarhebion 3:1-2
Fy mab, paid anghofio beth dw i’n ei ddysgu i ti; cadw’r pethau dw i’n eu gorchymyn yn dy galon. Byddi’n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti.
Diarhebion 3:1-2で検索
7
Diarhebion 3:13-15
Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae’n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu’n ôl lawer mwy nag aur. Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau; does dim trysor tebyg iddi.
Diarhebion 3:13-15で検索
8
Diarhebion 3:27
Pan fydd gen ti’r cyfle i helpu rhywun, paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.
Diarhebion 3:27で検索
9
Diarhebion 3:19
Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd.
Diarhebion 3:19で検索