Mathew 3:7-12

Mathew 3:7-12 DAFIS

Welodd e bo lot o'r Ffariseied a'r Sadiwceied in dwâd i gâl 'u bididdio, a wedodd e wrthon nw, “Ŷch chi'n lot o nadrodd slei; pwy wedo wrthoch chi jengid wrth i farn sy'n dod? Dangoswch 'ich bo chi wedi 'difaru in iawn wrth shwt ych chi'n byw; a peidwch dachre meddwl gweu'th ich gily, ‘Abraham yw'n tad ni’; achos dwi'n gweu'tho chi galle Duw droi'r cerrig 'ma in blant i Abraham os buse fe moyn. Ma'r fwell wrth wreidde'r cwed in barod. Geith bob llwyn sy ddim in rhoi ffrwyth da 'u torri lawr a'u towlu miwn i'r tân. “'Ich bididdio chi 'da dŵr i ddangos 'ich bo chi wedi difaru dwi'n neud. Ma'r un sy'n dwâd ar in ôl i in grifach na fi, a sena i'n ddigon da i dinnu'i sgije. Bydd e in 'ich bididdio chi 'da'r Isbryd Glân a 'da tân. Ma'i raw nitho in i law e'n barod. Glirith e'r llawr dirnu a casglu'r llafur i'r sgubor, on fe losgith e'r rest 'da tân sy'n llosgi am byth.”