1
Diarhebion 12:25
beibl.net 2015, 2024
bnet
Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.
ತಾಳೆಮಾಡಿ
Diarhebion 12:25 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
2
Diarhebion 12:1
Mae rhywun sy’n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth, ond mae’r un sy’n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl!
Diarhebion 12:1 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
3
Diarhebion 12:18
Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu.
Diarhebion 12:18 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
4
Diarhebion 12:15
Mae’r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e’n gwybod orau, ond mae’r person doeth yn derbyn cyngor.
Diarhebion 12:15 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
5
Diarhebion 12:16
Mae’r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae’r person call yn anwybyddu’r ffaith ei fod wedi’i sarhau.
Diarhebion 12:16 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
6
Diarhebion 12:4
Mae gwraig dda yn gwneud i’w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy’n codi cywilydd arno fel cancr i’r esgyrn.
Diarhebion 12:4 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
7
Diarhebion 12:22
Mae’n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd, ond mae’r rhai sy’n dweud y gwir yn ei blesio.
Diarhebion 12:22 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
8
Diarhebion 12:26
Mae’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dangos y ffordd i’w ffrind, ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.
Diarhebion 12:26 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ
9
Diarhebion 12:19
Mae geiriau gwir yn aros bob amser, ond celwydd, mae wedi mynd mewn chwinciad.
Diarhebion 12:19 ಅನ್ವೇಷಿಸಿ