1
Ioan 4:24
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”
비교
Ioan 4:24 살펴보기
2
Ioan 4:23
Ond y mae’r adeg yn dyfod, ac y mae yn awr, pan addolo’r gwir addolwyr y tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd dyna’n wir y fath a gais y tad yn addolwyr iddo.
Ioan 4:23 살펴보기
3
Ioan 4:14
ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf i iddo, ni ddaw syched arno byth yn dragywydd, ond â’r dwfr a roddaf i iddo yn ffynhonnell ddwfr ynddo yn ffrydio i fywyd tragwyddol.”
Ioan 4:14 살펴보기
4
Ioan 4:10
Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pe buasit yn gwybod rhodd Duw, a phwy yw’r hwn sy’n dywedyd wrthyt ‘dyro imi ddiod,’ tydi a fuasai’n gofyn ganddo ef, a rhoesai yntau i ti ddwfr byw.”
Ioan 4:10 살펴보기
5
Ioan 4:34
Medd yr Iesu wrthynt: “Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i, a dwyn ei waith i ben.
Ioan 4:34 살펴보기
6
Ioan 4:11
Medd hithau wrtho: “Syr, nid oes gennyt biser, a hefyd y mae’r pydew’n ddwfn; o ba le felly y mae’r dwfr byw hwn gennyt?
Ioan 4:11 살펴보기
7
Ioan 4:25-26
Medd y wraig wrtho: “Gwn fod Meseia yn dyfod, a elwir yn Eneiniog. Pan ddêl hwnnw, fe fynega bopeth inni.” Medd yr Iesu wrthi: “Myfi sydd yn siarad â thi ydyw.”
Ioan 4:25-26 살펴보기
8
Ioan 4:29
“Dewch i weled dyn a ddywedodd wrthyf bopeth a wneuthum; tybed nad hwn yw’r Eneiniog?”
Ioan 4:29 살펴보기
홈
성경
묵상
동영상