1
Genesis 32:28
beibl.net 2015, 2024
bnet
A dyma’r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi reslo gyda Duw a phobl, ac wedi dal dy dir.”
비교
Genesis 32:28 살펴보기
2
Genesis 32:26
“Gad i mi fynd,” meddai’r dyn, “mae hi’n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.”
Genesis 32:26 살펴보기
3
Genesis 32:24
Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn reslo gydag e nes iddi wawrio.
Genesis 32:24 살펴보기
4
Genesis 32:30
Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw i’n dal yn fyw!”
Genesis 32:30 살펴보기
5
Genesis 32:25
Pan welodd y dyn nad oedd e’n ennill, dyma fe’n taro Jacob yn ei glun a’i rhoi o’i lle.
Genesis 32:25 살펴보기
6
Genesis 32:27
Felly dyma’r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai.
Genesis 32:27 살펴보기
7
Genesis 32:29
Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam wyt ti’n gofyn am fy enw i?” meddai’r dyn. Ac wedyn dyma fe’n bendithio Jacob yn y fan honno.
Genesis 32:29 살펴보기
8
Genesis 32:10
Dw i’n neb, a ddim yn haeddu’r ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon i’r addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi afon Iorddonen. Bellach mae digon ohonon ni i rannu’n ddau grŵp.
Genesis 32:10 살펴보기
9
Genesis 32:32
(Dyna pam dydy pobl Israel hyd heddiw ddim yn bwyta’r gewyn wrth gymal y glun. Maen nhw’n cofio’r digwyddiad yma, pan gafodd Jacob ei daro ar ei glun.)
Genesis 32:32 살펴보기
10
Genesis 32:9
Gweddïodd Jacob, “O Dduw fy nhaid Abraham a’m tad Isaac. Ti ydy’r ARGLWYDD ddwedodd wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun at dy deulu. Bydda i’n dda i ti.’
Genesis 32:9 살펴보기
11
Genesis 32:11
Plîs wnei di’n achub i o afael fy mrawd Esau? Mae gen i ofn iddo ymosod arna i, a lladd y gwragedd a’r plant.
Genesis 32:11 살펴보기