S. Ioan 3
3
1Ac yr oedd dyn o’r Pharisheaid, a Nicodemus yn enw iddo, pennaeth yr Iwddewon. 2Hwn a ddaeth Atto Ef liw nos, ac a ddywedodd Wrtho, Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, canys yr holl arwyddion hyn y rhai yr wyt Ti yn eu gwneuthur, nid oes neb a all eu gwneuthur oddieithr i Dduw fod gydag ef. 3Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o newydd ni all weled teyrnas Dduw. 4Dywedodd Nicodemus Wrtho, Pa fodd y gall dyn ei eni, ac efe yn hen? A all efe fyned i mewn i groth ei fam eilwaith, a’i eni? 5Attebodd yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o ddwfr ac o’r Yspryd ni all fyned i mewn i deyrnas Dduw. 6Yr hyn a aned o’r cnawd, cnawd yw; a’r hyn a aned o’r Yspryd, yspryd yw. 7Na ryfedda ddywedyd o Honof wrthyt, Y mae rhaid eich geni o newydd. 8Y gwynt, lle yr ewyllysia y chwyth, a’i swn ef a glywir; eithr ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y cilia; felly y mae pob un a aned o’r Yspryd. 9Attebodd Nicodemus, a dywedodd Wrtho, Pa fodd y gall y pethau hyn fod? 10Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Tydi wyt ddysgawdwr Israel, a’r pethau hyn ni wyddost! 11Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Yr hyn a wyddom a lefarwn; a’r hyn a welsom a dystiolaethwn; a’n tystiolaeth ni dderbyniwch. 12Os pethau daearol a ddywedais wrthych, ac na chredwch, pa fodd os dywedaf wrthych bethau nefol, y credwch? 13Ac nid oes neb wedi esgyn i’r nef, oddieithr yr Hwn a ddisgynodd o’r nef, sef Mab y Dyn, yr Hwn sydd yn y nef. 14Ac fel y bu i Mosheh ddyrchafu’r sarph yn yr anialwch, felly, Ei ddyrchafu sydd rhaid i Fab y Dyn, 15fel y bo rhaid i bob un y sy’n credu Ynddo, gael bywyd tragywyddol.
16Canys felly y carodd Duw y byd, fel mai Ei Fab unig-anedig a roddodd Efe, fel y bo i bob un y sy’n credu Ynddo mo’i golli, eithr cael o hono fywyd tragywyddol. 17Canys ni ddanfonodd Duw Ei Fab i’r byd fel y barnai y byd, eithr fel yr achubid y byd Trwyddo. 18Yr hwn sy’n credu Ynddo ni fernir; yr hwn nad yw yn credu, eisoes y’i barnwyd, o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. 19A hon yw’r farn, Fod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charodd dynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni, gan mai drwg oedd eu gweithredoedd. 20Canys pob un yn gwneuthur pethau drwg, cas ganddo y goleuni, ac nid yw’n dyfod i’r goleuni fel nad argyhoedder ei weithredoedd; 21ond yr hwn sy’n gwneuthur y gwirionedd, dyfod i’r goleuni y mae, fel yr amlyger ei weithredoedd ef mai yn Nuw y maent wedi eu gwneuthur.
22Wedi’r pethau hyn daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Iwdea; ac yno yr arhosodd gyda hwynt, ac y bedyddiai. 23Ac yr oedd Ioan yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Shalim, canys dwfr lawer oedd yno; a daethant Atto, a bedyddid hwynt, 24canys nid oedd Ioan etto wedi ei fwrw yngharchar. 25Bu, gan hyny, ymresymmiad rhwng disgyblion Ioan ac Iwddew ynghylch puredigaeth; 26a daethant at Ioan, a dywedasant wrtho, Rabbi, yr Hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, ac i’r Hwn y tystiolaethaist, wele, y mae Efe yn bedyddio, a phawb yn dyfod Atto. 27Attebodd Ioan, a dywedodd, Ni all dyn dderbyn dim oddieithr y bo wedi ei roddi iddo o’r nef. 28Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi y dywedais, “Nid wyf fi y Crist,” eithr “Wedi fy nanfon yr wyf o’i flaen Ef.” 29Yr hwn sydd a chanddo y briod-ferch, y priod-fab yw; a chyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed, â llawenydd y llawenycha oblegid llef y priod-fab. Y llawenydd hwn, gan hyny, mau fi, a gyflawnwyd. 30Iddo Ef y mae rhaid cynnyddu, ac i mi leihau.
31Yr hwn sy’n dyfod oddi uchod, goruwch pawb y mae; yr hwn y sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae, ac o’r ddaear y mae ei ymddiddan: yr Hwn y sy’n dyfod o’r nef, goruwch pawb y mae. 32Yr hyn a welodd ac a glywodd Efe, hyny a dystiolaetha Efe; ac Ei dystiolaeth nid oes neb yn ei derbyn. 33Yr hwn sy’n derbyn Ei dystiolaeth Ef a seliodd fod Duw yn eirwir: 34canys yr Hwn a ddanfonodd Duw, ymadroddion Duw a lefara Efe; canys nid wrth fesur y rhydd Efe yr Yspryd. 35Y Tad a gâr y Mab; a phob peth a roddodd Efe yn Ei law. 36Yr hwn sy’n credu yn y Mab sydd a chanddo fywyd tragywyddol; ond yr hwn nad yw yn credu yn y Mab, ni wel fywyd, eithr digofaint Duw sydd yn aros arno.
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.