Iöb 5

5
V.
1 # 5:1 Nid gwiw i ti gwyno, canys ni ddwg yr angylion sanctaidd dy gŵyn at Dduw. Galw yn awr! A oes a ’th ettyb?
Ac at bwy o’r rhai sanctaidd y tröi di?
2(Nage!) ond yr ynfyd a ladd gofid,
A’r annoeth a ddïeneidia digllondeb:
3Myfi a welais yr ynfyd yn gwreiddio,
A melldithiais ei drigfa ef yn ebrwydd;
4Pell yw ei feibion ef oddi wrth iachawdwriaeth,
Briwiwyd hwynt yn y #5:4 eisteddle ’r barnwyrporth ac nid (oedd) achubydd;
5Yr hwn, ei gynhauaf ef y mae ’r newynog yn ei fwytta,
Allan o’r #5:5 y gwrych ni ddiffynna ’r cnwd.drain y cymmer efe ef;
A’r sychedig a drachwanta am eu cyfoeth;
6 # 5:6 annuwioldeb sydd yn eu hachosi Canys nid dyfod o’r llwch y mae cystudd,
Ac nid o’r ddaear y blagura trallod;
7 # 5:7 naturiol ydynt, yn gystal y naill a’r llall. Ond dyn i drallod a enir,
Fel y bydd gwreichion yn ehedeg i’r uchelder.
8 # 5:8 sef o dan yr un amgylchiadau Etto myfi a ymgyrchwn at Dduw,
Ac ar yr Arglwydd y rhoddwn fy achos,
9Yr Hwn sy’n gwneuthur pethau mawrion hyd nad (oes eu) chwilio,
Pethau rhyfeddol hyd nad (oes eu) rhifo;
10Yr Hwn sy’n rhoddi gwlaw ar wyneb y ddaear,
Ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y porfëydd;
11Gan osod y rhai isel mewn uchelder,
A’r galarus sy’n cael uchel iachawdwriaeth;
12Yr Hwn sy’n chwilfriwio amcanion y rhai call,
Fel na wnelo eu dwylaw hwynt eu bwriad;
13Yr Hwn sy’n dal y doethion yn eu callineb,
A chynghor yr hocedus a wneir yn fyrbwyll;
14Lliw dydd y cyfarfyddant hwy â thywyllwch,
Ac, fel (ped fai) nos, y palfalant ar hanner dydd;
15Felly, Efe a weryd y difrodedig o’u safn hwynt,
Ac o law’r cadarn, yr anghenog,
16Ac y mae gan y tlawd obaith,
Ac anwiredd sy’n cau ei safn:
17Wele, gwỳn ei fyd y dyn a argyhoeddo Duw,
Am hynny, cerydd yr Hollalluog na wrthod di,
18Canys Efe a glwyfa ac a rwyma,
Efe a dery, a’i ddwylaw Ef a iachânt;
19 # 5:19 Bendithion a ddeuant Iöb os iawn-dderbyn efe geryddon Duw Mewn chwech o gyfyngderau Efe a’th weryd,
Ac mewn saith ni chaiff drwg gyffwrdd â thi;
20Mewn newyn Efe a’th weryd rhag marwolaeth,
Ac mewn rhyfel rhag llaw’r cleddyf;
21Pan ffrewyllio tafod, ti a guddir,
Ac ni chei ofni rhag y dinystriad, pan ddelo;
22Ar y dinystriad a’r newyn y chwerddi,
A rhag bwystfilod y maes nid ofni,
23 # 5:23 i beidio â’i anffrwythloni Canys â cherrig y maes (y bydd) cynghrair i ti,
A bwystfilod y maes a fyddant yn heddychol â thi;
24A chei brofi mai heddwch (fydd) dy annedd,
Ac adolygi dy borfa ac #5:24 y praidd oll fydd yno.ni chenfyddi goll;
25A phrofi mai aml dy hâd,
A’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear;
26Ti a ddeui mewn oedran addfed i’r bedd,
# 5:26 sef i’r ydlan Fel yr esgyn ysgafn o ŷd yn ei amser.
27Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly (y mae) hi;
Gwrando hyn; a thydi, derbyn i’th dy hun wybodaeth.

선택된 구절:

Iöb 5: CTB

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요