Ioan 1

1
1Yn y dechreu yr oedd y gair, a’r gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y gair. #1:1 h.y., yr oedd y gair yn Dduw. 2Yr oedd hwn yn y dechreu gyda Duw. 3Trwyddo ef y daeth popeth, a hebddo ef ni ddaeth unpeth a’r a ddaeth. 4Ynddo ef yr oedd bywyd, #1:4 Neu, efallai: Trwyddo ef y daeth popeth, a hebddo ef ni ddaeth dim o gwbl; yr hyn a ddaeth ynddo ef, bywyd oedd. a’r bywyd oedd oleuni dynion. 5A’r goleuni a lewyrcha yn y tywyllwch, a’r tywyllwch ni orfu arno. 6Daeth dyn wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a’i enw Ioan. 7Daeth hwn er tystiolaeth, i dystio am y goleuni, er mwyn i bawb gredu drwyddo. 8Nid hwnnw oedd y goleuni, ond er mwyn iddo dystio am y goleuni. 9Yr oedd y gwir oleuni, sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd. #1:9 Neu, efallai: Ef oedd y gwir oleuni, sy’n goleuo pob dyn sydd yn dyfod i’r byd. 10Yn y byd yr oedd, a gwnaed y byd trwyddo ef, a’r byd nis adnabu ef. 11At ei eiddo’i hun y daeth, a’i bobl ef ei hunan nis derbyniasant ef atynt. 12Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy allu i ddyfod yn blant Duw, i’r rhai sy’n credu yn ei enw ef, 13y rhai a aned nid o waed #1:13 Gr., o waedau. nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. 14A daeth y gair yn gnawd, a phreswyliodd yn ein plith, a gwelsom ei ogoniant ef, gogoniant megis gogoniant yr uniganedig oddiwrth y tad, yn llawn gras a gwirionedd. 15Y mae Ioan yn tystio amdano, a gwaeddodd gan ddywedyd: “Dyma’r hwn y dywedais amdano. Yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl i, yr oedd ef o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi;” 16canys o’i gyfiawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras at ras; 17canys y gyfraith, drwy Foesen y rhoddwyd hi, — y gras a’r gwirionedd, drwy Iesu Grist y daethant. 18Ni welodd neb Dduw erioed. Yr uniganedig Dduw, sydd ym mynwes y tad, hwnnw a’i heglurodd ef.
19A hon yw tystiolaeth Ioan, pan ddanfonodd yr Iddewon ato o Gaersalem offeiriaid a Lefiaid i’w holi, “Pwy wyt ti?” 20Ac addefodd ac ni wadodd, ac addefodd, “Nid myfi yw’r Eneiniog.” 21A gofynasant iddo: “Beth ynteu? Ai Elïas wyt ti?” A dywedodd: “Nage.” “Ai’r proffwyd wyt ti?” Ac atebodd: “Nage.” 22Meddent hwythau wrtho: “Pwy wyt ti? — er mwyn i ni roddi ateb i’r rhai a’n danfonodd; beth a ddywedi di amdanat dy hun?” 23Medd yntau: “Myfi, — llais un yn gweiddi yn yr anialwch, ‘Unionwch ffordd yr Arglwydd,’ fel y dywedodd y proffwyd Eseia.” 24Ac anfonasid rhai o blith y Phariseaid, 25a holasant ef a dywedasant wrtho: “Paham ynteu yr wyt yn bedyddio onid yr Eneiniog ydwyt nac Elïas na’r proffwyd?” 26Atebodd Ioan iddynt, a dywedodd: “Yr wyf i ’n bedyddio mewn dwfr. Yn eich canol y mae un yn sefyll nad adwaenoch chwi, 27— yr hwn sy’n dyfod ar f’ôl i, — nad wyf i deilwng i ddatod carrai ei esgid.” 28Hyn a fu ym Methania, dros Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio. 29Trannoeth y mae’n gweled yr Iesu ’n dyfod tuag ato, a dywed: “Dyma oen Duw sy’n tynnu ymaith bechod y byd. 30Hwn yw’r un y dywedais amdano; ‘Ar f’ôl i y mae gŵr yn dyfod a oedd o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi.’ 31A minnau, nis adwaenwn, ond er mwyn ei amlygu i’r Israel, am hynny y deuthum i gan fedyddio mewn dwfr.” 32A thystiodd Ioan, a dywedodd: “Gwelais yr ysbryd yn disgyn fel colomen o’r nefoedd, ac arhosodd arno ef. 33A minnau, nis adwaenwn ef, ond yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, dywedodd hwnnw wrthyf: ‘Y neb y gwelych yr ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sy’n bedyddio ag ysbryd glân.’ #1:33 Neu: yn [yr] ysbryd glân. 34Ac yr wyf innau wedi ei weled, ac wedi tystio mai hwn yw mab Duw.” 35Trannoeth drachefn safai Ioan a dau o’i ddisgyblion, 36ac wedi syllu ar yr Iesu’n rhodio o amgylch, dywed: “Dyma oen Duw.” 37A chlywodd ei ddau ddisgybl ef yn dywedyd a chanlynasant yr Iesu. 38Troes yr Iesu, ac wrth eu gweled yn canlyn, dywed wrthynt; “Beth yr ydych yn ei geisio?” Meddent hwythau: “Rabbi (yr hyn a alwn ni, o’i gyfieithu, yn Athro), ym mha le yr wyt ti’n aros?” 39Medd ef wrthynt: “Deuwch a gwelwch.” Felly aethant a gwelsant ym mha le yr oedd yn aros, ac arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw; tua’r ddegfed awr ydoedd hi. 40Yr oedd Andreas brawd Simon Pedr yn un o’r ddau a glywodd gan Ioan, ac a’i canlynodd ef. 41Y mae hwn yn cael yn gyntaf ei frawd ei hun, Simon, ac yn dywedyd wrtho: “Cawsom y Meseia” (yr hyn o’i gyfieithu yw Eneiniog). 42Daeth ag ef at yr Iesu. Wedi edrych arno dywedodd yr Iesu: “Simon fab Ioan wyt ti; Ceffas fydd dy enw,” (yr hyn a gyfieithir yn Garreg#1:42 Gr., Pedr.). 43Trannoeth yr oedd yn ei fryd fyned allan i Galilea, ac y mae’n cael Phylip. Ac medd yr Iesu wrtho: “Dilyn fi”; 44ac o Fethsaida yr oedd Phylip, o dref Andreas a Phedr. 45Y mae Phylip yn cael Nathanael ac yn dywedyd wrtho: “Yr hwn yr ysgrifennodd Moesen yn y gyfraith amdano, a’r proffwydi, — yr ydym ni wedi ei gael, Iesu fab Ioseff, o Nasareth.” 46Ac meddai Nathanael wrtho: “A all dim da fod o Nasareth?” Medd Phylip wrtho: “Tyrd a gwêl.” 47Gwelodd Iesu Nathanael yn dyfod ato, ac medd ef amdano: “Wel dyma mewn gwirionedd Israeliad heb ddim twyll ynddo.” 48Medd Nathanael wrtho: “Sut yr wyt ti’n fy adnabod?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Cyn i Phylip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.” 49Atebodd Nathanael iddo: “Rabbi, ti yw mab Duw, ti yw brenin yr Israel.” 50Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Ai am i mi ddywedyd wrthyt fy mod wedi dy weled dan y ffigysbren, yr wyt ti’n credu? Cei weled mwy na hyn.” 51Ac medd ef wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, chwi welwch y nef yn agored ac angylion Duw’n esgyn ac yn disgyn ar fab y dyn.”

선택된 구절:

Ioan 1: CUG

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요

YouVersion은 여러분의 경험을 개인화하기 위해 쿠키를 사용합니다. 저희 웹사이트를 사용함으로써 여러분은 저희의 개인 정보 보호 정책에 설명된 쿠키 사용에 동의하게 됩니다