Psalmau 12

12
Y Psalm. XII. Englyn Unodl Grwcca.
1Cadw fi, Duw cydfod Iôn;
Cofus nad oes ŵr cyfion:
Nid oes (ffieidhloes!) dyn ffydhlon, — ond drwg,
Yn trigo yn mysg dynion.
2Mae ’n wagedh y mynegant
Un wrth arall, gwall i gant;
A’u genau hwythau gwenhieithiant, — minffug,
A mwynffals y d’wedant.
3E dyr Duw eu diriaid air,
A’u gwefus felus fawlair;
A’u tafawd parawd, nid purair — dadwrdh,
Sy ’n d’wedyd mefl mawrair.
4O ’r rhai a dh’wedai ’n dhideg,
Budh dhyfod o ’n tafod teg;
Ni piau ’n genau a ’n gwaneg — eurglaim,
Pwy yw ’n Harglwydh? (gosteg!)
5Am orthrech truan hanes,
Uchneidion tylodion les;
Cyfodaf, medh Naf, dof yn nes, — rhydhion
Rhodhaf bawb a fagles.
6Geiriau fy Nêr, hyder hawdh,
Geiriau purion, gwir parawdh;
Fal arian yn lan ni lynawdh — sothach,
A seithwaith ei purawdh.
7Tydi a’u cedwi rhag hawl, —
Cedwi bawb dihoccedawl
Rhag caeth genhedlaeth, gwn, hawl — Duw, Ceidwad,
Di a’u cedwi ’n dragwydhawl.
8Y rhai drwg cilwg, coeliwch,
Yn rhedegfain truain trwch,
Mawr gywilydh sydh, heb nos hedhwch — draw,
Os rhai drwg a berchwch.

Šiuo metu pasirinkta:

Psalmau 12: SC1595

Paryškinti

Dalintis

Kopijuoti

None

Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės