Marc 9
9
9. IESU YN AGOR MEDDYLIAU
1Dwedodd Iesu, “Credwch fi, mae rhai'n sefyll yma na fyddan nhw farw nes iddyn nhw weld teyrnas Dduw wedi dod mewn nerth.”
Gweddnewidiad Iesu (Marc 9:2-13)
2-13Chwe diwrnod yn ddiweddarach aeth Iesu gyda Pedr, Iago ac Ioan i ben mynydd uchel. Yno, gwelon nhw olwg Iesu'n newid; aeth ei ddillad i ddisgleirio'n llachar iawn, yn wynnach nag y gallai unrhyw un yn y byd eu gwynnu, ac roedd Elias a Moses yn siarad gydag e. Dwedodd Pedr wrth Iesu, “Athro, gad i ni aros yma. Gwnawn dair pabell: un i ti, un i Moses ac un i Elias.” Roedden nhw wedi cael tipyn o fraw a doedd Pedr ddim yn sylweddoli beth roedd e'n ei ddweud. Yna daeth cwmwl gan daflu'i gysgod drostyn nhw a daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Dyma fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno fe.” Pan edrychon nhw o amgylch, doedd neb i'w weld yno, ond Iesu a hwythau. Ar eu ffordd i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddyn nhw beidio â dweud gair wrth neb am y pethau a welson nhw, nes i Fab y Dyn atgyfodi oddi wrth y meirw. Gofynnon nhw iddo, “Pam mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?” Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer popeth. Ond beth mae'r Ysgrythurau'n ddweud am Fab y Dyn — bod rhaid iddo fe ddioddef llawer a chael ei ddirmygu? Rydw i'n dweud wrthych chi fod Elias wedi dod eisioes, a gwnaethon nhw fel y mynnen nhw ag ef, fel mae'r Ysgrythurau'n awgrymu.”
Iacháu Bachgen ag Ysbryd Aflan Ynddo (Marc 9:14-29)
14-29Pan ddaeth y pedwar nôl at y disgyblion, roedd ysgrifenyddion yn dadlau â nhw, a thyrfa fawr o'u hamgylch. Syfrdanwyd y bobl wrth weld Iesu a rhedon nhw ato a'i gyfarch. Gofynnodd, “Am beth ydych chi'n dadlau?” Atebodd un o'r dynion, “Athro, des i a'm mab atat ti oherwydd bod ysbryd mud ynddo fe, a phan fydd hwnnw'n gafael ynddo, mae'n ei fwrw i'r llawr, yn ewynnu poer, yn rhincian ei ddannedd ac yn llewygu. Er i mi ofyn i dy ddisgyblion di, doeddwn nhw ddim yn gallu'i wella.” Dwedodd Iesu, “O bobl ddi‐ffydd, pa mor hir mae'n rhaid i mi'ch dioddef chi? Dewch ag ef yma.” Daethon nhw â'r bachgen at Iesu a chyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgydwodd y bachgen a chwympodd i'r llawr a rholio o amgylch ac ewynnu. Gofynnodd Iesu i'w dad, “Ers pryd mae ef fel hyn?” Atebodd ei dad, “Er pan oedd yn blentyn. Llawer tro fe'i taflodd i'r tân neu i ddŵr, i geisio'i ladd. Os ydy'n bosibl i ti wneud rhywbeth, tosturia wrthon ni a helpa ni.” Dwedodd Iesu wrtho, “Os ydy'n bosibl! Mae popeth yn bosibl i'r hwn sydd â ffydd ganddo.” Gwaeddodd tad y bachgen, “Mae gen i ffydd, helpa di fy niffyg ffydd.” Pan welodd Iesu fod y dyrfa'n casglu'n gyflym, ceryddodd yr ysbryd aflan a dweud, “Ysbryd mud a byddar, rydw i'n dy orchymyn di i ddod allan ohono a pheidio â mynd i mewn iddo fyth eto.” Yna, gan weiddi a'i ysgwyd yn llwyr, aeth yr ysbryd allan o'r bachgen. Tybiodd rhai ei fod wedi marw ond cydiodd Iesu yn ei law a'i godi. Ar ôl mynd i'r tŷ gofynnodd y disgyblion wrth Iesu, “Pam na allen ni ei fwrw allan?” Ateb Iesu oedd, “Dim ond trwy weddi y mae bwrw allan ysbryd fel hwn.”
Iesu'n sôn eto am ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad (Marc 9:30-32)
30-32Ar ôl iddyn nhw adael y lle hwnnw, aethon nhw drwy Galilea. Doedd Iesu ddim am i neb wybod hynny, a dwedodd wrth y disgyblion, “Bydd Mab y Dyn yn cael ei roi yn nwylo dynion, a byddan nhw'n ei ladd, ond bydd yn atgyfodi ymhen tri diwrnod.” Doedden nhw ddim yn ei ddeall, ac roedden nhw'n ofni ei holi ymhellach.
Pwy ydy'r Mwyaf? (Marc 9:33-37)
33-37Ar ôl iddyn nhw gyrraedd Capernaum, gofynnodd Iesu beth oedden nhw'n ei drafod ar y ffordd. Roedden nhw'n gwbl ddistaw am iddyn nhw fod yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf yn eu plith. Eisteddodd Iesu a galwodd y deuddeg ato a dwedodd, “Pwy bynnag sy am fod y cyntaf, bydd rhaid iddo gytuno i fod yn was i bawb.” Cymerodd blentyn a'i osod yn eu canol; cofleidiodd ef a dwedodd, “Pwy bynnag sy'n derbyn plentyn fel hwn yn fy enw i, sy'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”
Mae'r Hwn sy Ddim yn Ein Herbyn, Droson Ni (Marc 9:38-41)
38-41Dwedodd Ioan wrth Iesu, “Athro, fe welson ni ddyn yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, ac fe geision ni ei rwystro achos doedd e ddim yn un ohonon ni.” Atebodd Iesu nhw a dweud, “Peidiwch â'i rwystro, achos ni all unrhyw un sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i siarad yn ddrwg amdanaf wedyn. Os nad ydy dyn yn ein herbyn, mae e droson ni. Felly, fe gaiff pwy bynnag sy'n rhoi cwpanaid o ddŵr i chi am eich bod yn perthyn i'r Meseia, ei wobrwyo.
Rhwystrau (Marc 9:42-50)
42-50“Pwy bynnag sy'n rhwystro un o'r rhai bach hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr â maen melin mawr am ei wddf. Os bydd dy law yn dy rwystro, tor hi i ffwrdd; mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd ag un llaw na chadw'r ddwy a mynd i dân anniffoddadwy uffern. Os bydd dy droed yn rhwystr i ti, tor hi i ffwrdd; mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chadw dy ddwy droed a chael dy daflu i uffern. Os bydd dy lygad yn dy rwystro, tyn hi allan; mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw ag un llygad na chadw'r ddwy a chael dy daflu i uffern lle nad ydy pryf yn marw na thân yn diffodd. Caiff pob un ei buro â thân. Mae halen yn dda, ond os bydd wedi colli ei flas, sut gellir ei ddefnyddio i halltu? Byddwch yn bobl â halen ynoch, a byddwch fyw'n heddychlon gyda'ch gilydd.”
Voafantina amin'izao fotoana izao:
Marc 9: DAW
Asongadina
Hizara
Dika mitovy
Tianao hovoatahiry amin'ireo fitaovana ampiasainao rehetra ve ireo nasongadina? Hisoratra na Hiditra
© Mudiad Addysg Gristinogol Cymru 1990
© Christian Education Movement Wales 1990