1
Iago 3:17
beibl.net 2015, 2024
bnet
Ond mae’r doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae’n gwbl ddiduedd a diragrith.
താരതമ്യം
Iago 3:17 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
2
Iago 3:13
Pwy ohonoch chi sy’n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae’n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth.
Iago 3:13 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
3
Iago 3:18
Bydd y rhai sy’n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.
Iago 3:18 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
4
Iago 3:16
Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi’n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.
Iago 3:16 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
5
Iago 3:9-10
Gallwn addoli ein Harglwydd a’n Tad nefol un funud, ac yna’r funud nesa dŷn ni’n melltithio pobl sydd wedi’u creu ar ddelw Duw! Mae bendith a melltith yn llifo o’r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd!
Iago 3:9-10 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
6
Iago 3:6
A fflam felly ydy’r tafod! Mae’r tafod yn llawn drygioni, ac o bob rhan o’r corff, hwn ydy’r un sy’n gallu llygru’r bersonoliaeth gyfan. Mae’n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae’n fflam sydd wedi’i thanio gan uffern!
Iago 3:6 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
7
Iago 3:8
ond does neb byw sy’n gallu dofi’r tafod. Mae’n ddrwg cwbl afreolus; mae’n llawn gwenwyn marwol!
Iago 3:8 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
8
Iago 3:1
Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy’n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy’n dysgu eraill yn cael ein barnu’n fwy llym.
Iago 3:1 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക