Wele ddyddiau yn dyfod,
Medd yr Arglwydd,
Y goddiwes arddwr fedwr;
A sathrydd grawnwin hauwr yr hâd:
A’r mynyddoedd a ddefnynant win newydd,
A’r holl fryniau a lifant trostynt.
A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel;
A hwy a adeiladant ddinasoedd anrheithiedig ac â'u preswyliant.
A phlanant winllanoedd;
Ac a yfant o’u gwin hwynt:
A gwnant erddi;
Ac a fwytânt eu ffrwyth hwynt.