1
Mathew 7:7
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
“Gofynnwch, ac fe roddir i chi; chwiliwch, ac fe gewch; curwch ac agorir i chi.
Porównaj
Przeglądaj Mathew 7:7
2
Mathew 7:8
Oherwydd mae pob un sydd yn gofyn yn derbyn, a’r sawl sydd yn chwilio yn cael, a’r sawl sydd yn curo yn cael drws agored.
Przeglądaj Mathew 7:8
3
Mathew 7:24
“Felly, mae pob un sy’n clywed fy ngeiriau, ac yn ufuddhau i mi yn debyg i ddyn call a gododd ei dŷ ar graig.
Przeglądaj Mathew 7:24
4
Mathew 7:12
“Gwnewch chithau i eraill bopeth y dymunech i eraill ei wneud i chi: dyna ddysgeidiaeth y Gyfraith a’r proffwydi.”
Przeglądaj Mathew 7:12
5
Mathew 7:14
Ond am y porth sy’n arwain i fywyd, un cyfyng yw hwnnw, a’r ffordd yn gul, ac ychydig ydy’r rhai sy’n dod o hyd i honno.
Przeglądaj Mathew 7:14
6
Mathew 7:13
“Ewch i mewn drwy’r porth cyfyng oherwydd porth llydan yw’r porth sy’n arwain i ddinistr; mae digon o le ar y ffordd honno, a digon o bobl yn ei cherdded hi.
Przeglądaj Mathew 7:13
7
Mathew 7:11
Wel, ynteu, os gwyddoch chi, er gwaetha’ch drygioni, sut i roi i’ch plant yr hyn sy’n dda iddyn nhw, mae eich Tad nefol yn debycach o roi yr hyn sydd dda i’r rhai sy’n gofyn iddo.
Przeglądaj Mathew 7:11
8
Mathew 7:1-2
“Peidiwch â barnu pobl eraill ac ni’ch bernir chithau. Fel y byddwch chi’n barnu, felly’n union y cewch chithau’ch barnu, ac fe gewch eich mesur â’ch llinyn mesur chi eich hunain.
Przeglądaj Mathew 7:1-2
9
Mathew 7:26
Ond mae pob un sy’n clywed fy ngeiriau a heb ufuddhau, yn debyg i ddyn ffôl a gododd ei dŷ ar dywod.
Przeglądaj Mathew 7:26
10
Mathew 7:3-4
“Pam rwyt ti’n gweld y smotyn sy yn llygad dy frawd a heb hyd yn oed sylwi ar yr ystyllen yn dy lygad dy hun? Neu pam rwyt ti’n dweud wrth dy frawd, ‘Gad i mi dynnu’r smotyn yna o’th lygad di,’ ac ystyllen yn dal yn dy lygad di?
Przeglądaj Mathew 7:3-4
11
Mathew 7:15-16
“Cymerwch ofal rhag pregethwyr twyllodrus: fe ddôn nhw atoch wedi eu gwisgo fel defaid, ond calonnau bleiddiaid gwancus sydd ganddyn nhw. Wrth eu ffrwythau y byddwch chi’n eu nabod. Oes ’na rywun yn tynnu grawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?
Przeglądaj Mathew 7:15-16
12
Mathew 7:17
Felly ffrwythau da ddaw ar bren iach, ond ffrwythau drwg ar bren afiach.
Przeglądaj Mathew 7:17
13
Mathew 7:18
All pren iach ddim rhoi ffrwythau drwg, na phren afiach roi ffrwythau da.
Przeglądaj Mathew 7:18
14
Mathew 7:19
“Pob pren nad yw’n rhoi ffrwyth da, fe’i torrir i lawr a’i losgi.
Przeglądaj Mathew 7:19
Strona główna
Biblia
Plany
Nagrania wideo