Mathew 14

14
Cydwybod euog
1Tua’r adeg honno daeth y sôn am yr Iesu i glustiau’r tywysog Herod.
2“Rhaid mai Ioan Fedyddiwr yw hwn,” meddai ef wrth ei weision; “mae Ioan wedi dod nôl yn fyw, dyna pam y mae galluoedd gwyrthiol ar waith ynddo.”
3Roedd Herod wedi dal Ioan, ei rwymo, a’i fwrw i garchar o achos Herodias, gwraig Philip, ei frawd, 4am iddo ddweud, “Dyw hi ddim yn iawn i ti’i chael hi.”
5Onibai fod Herod yn ofni’r bobl, a gredai fod Ioan yn broffwyd, byddai wedi ei ladd am hyn. 6Ond pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd rhoddodd merch Herodias gymaint o foddhad iddo wrth ddawnsio o flaen y cwmni, 7nes iddo dyngu llw y câi hi beth bynnag y gofynnai hi amdano. 8Ac meddai hi, dan berswâd ei mam, “Rho imi yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”
9Parodd hyn ofid mawr i’r brenin, ond am ei fod wedi tyngu llw, a hynny o flaen y cwmni, fe roddodd orchymyn ei bod hi i gael yn ôl ei dymuniad, 10ac fe anfonodd ddynion i dorri pen Ioan yn y carchar. 11Dygwyd ei ben i mewn ar ddysgl a’i roi i’r eneth, ac aeth hithau ag ef i’w mam. 12Yna daeth ei ddisgyblion a chymryd ei gorff a’i gladdu; a mynd wedyn i dorri’r newydd i’r Iesu.
Iesu’n porthi’r pum mil
13Wedi clywed yr hanes, aeth Iesu ar ei ben ei hun o’r fan honno mewn cwch i le anial; ond fe ddeallodd y dyrfa a’i ddilyn ar draed o’r trefi. 14Wedi iddo ddod i’r lan, fe welodd dyrfa fawr, ac o dosturi tuag atyn nhw, bu iddo wella’r cleifion yn eu mysg. 15Pan oedd hi’n hwyrhau, daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Lle anial ydy hwn, ac mae’r dydd yn tynnu ato; anfon y dyrfa ymaith i’r pentrefi i brynu bwyd iddyn nhw eu hunain.”
16“Does dim eisiau iddyn nhw fynd i ffwrdd,” atebodd yr Iesu, “rhowch chi rywbeth iddyn nhw i’w fwyta.”
17“Ond,” medden nhw wrtho, “does gennym ni ddim yma ond pum torth a dau bysgodyn.”
18“Dowch â nhw yma i mi,” meddai.
19Dyma Iesu’n gorchymyn i’r dyrfa eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrych tua’r nef, gofyn bendith arnyn nhw, torri’r torthau, a’u hestyn nhw i’r disgyblion i’w rhannu i’r dyrfa. 20Cafodd pawb eu gwala. At hynny, fe gasglwyd deuddeg basgedaid o’r hyn oedd yn weddill. 21Roedd tua phum mil o ddynion wedi gwledda, heb sôn am wragedd a phlant.
Rhodio ar y dŵr
22Yna mae’n peri i’r disgyblion fynd i gwch a chroesi i’r ochr draw o’i flaen, tra roedd ef yn anfon y dyrfa ymaith. 23Wedi iddo wneud hynny, mae’n dringo’r mynydd wrtho’i hun i weddïo. Roedd hi’n nosi ac yntau yno ar ei ben ei hun. 24Roedd y cwch erbyn hyn gryn bellter o’r lan, ar drugaredd y tonnau, a’r gwynt yn eu herbyn. 25Rhwng tri a chwech o’r gloch y bore aeth yr Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y llyn. 26Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y llyn, fe gawson nhw y fath ddychryn nes iddyn nhw weiddi allan mewn braw: “Drychiolaeth ydy e!” a bloeddio gan ofn.
27Ond dyma’r Iesu’n siarad â nhw ar unwaith: “Codwch eich calon! Fi sydd yma. Peidiwch ag ofni.”
28Ar hynny, dyma Pedr yn ei ateb: “Arglwydd, os ti sydd yna mewn gwirionedd, dywed wrthyf fi am ddod atat ti ar draws y dŵr.”
29“Tyrd, ynteu,” meddai yntau.
Camodd Pedr o’r cwch a cherdded ar draws y dŵr a dod i gyfeiriad yr Iesu. 30Ond pan welodd y gwynt, fe gafodd fraw, a chan ddechrau suddo, gwaeddodd: “Arglwydd, achub fi.”
31Ar unwaith estynnodd yr Iesu’i law a gafael ynddo, a dweud, “Pam y bu i ti amau? Mor wan yw dy ffydd di!”
32Yna, wedi i’r ddau ddringo i’r cwch, tawelodd y gwynt.
33Syrthiodd y rhai a oedd yn y cwch wrth ei draed ef a dweud, “Mewn gwirionedd, Mab Duw wyt ti.”
34Fe aethon nhw yn eu blaenau i’r ochr draw, a glanio ar dir Gennesaret. 35Wedi i drigolion y lle ddeall pwy ydoedd, dyma nhw’n anfon gair i’r holl wlad o gwmpas, ac yn dwyn pawb oedd yn wael ato ef 36a’r rheiny’n erfyn am gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. Cafodd pawb a’i cyffyrddodd eu gwella.

Obecnie wybrane:

Mathew 14: FfN

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj