Mathew 17
17
Y Gweddnewidiad
1Chwe diwrnod yn ddiweddarach, fe gymerodd Iesu Pedr, Iago ac Ioan, ei frawd, a’u harwain i ben mynydd uchel ar eu pennau eu hunain; 2ac yno yn eu gŵydd fe newidiwyd ei wedd, ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a’i ddillad yn wyn fel y goleuni. 3A dyma nhw’n gweld Moses ac Eleias yn ymddiddan ag ef. 4Atebodd Pedr, “Arglwydd,” meddai, “mor dda yw ein bod yma. Os mynni di fe godwn dair pabell yma, un i ti, un i Foses ac un i Eleias.”
5Tra roedd ef yn siarad, dyma gwmwl gloyw’n taflu’i gysgod drostyn nhw, a llais yn dod o’r cwmwl: “Dyma fy Mab, fy anwylyd, sydd wrth fy modd; gwrandewch arno.”
6Pan glywodd y disgyblion y llais, dyna nhw’n syrthio ar eu hwynebau mewn arswyd. 7A daeth Iesu atyn nhw, gan eu cyffwrdd, a dweud, “Codwch; peidiwch ag ofni.”
8Ac wedi iddyn nhw godi’u llygaid, doedd neb yn y golwg ond Iesu’i hun.
9Ar eu ffordd i lawr o’r mynydd, rhoes yr Iesu orchymyn iddyn nhw, “Peidiwch â sôn gair wrth neb am yr hyn a welsoch chi nes bod Mab y Dyn wedi ei godi o blith y meirw.”
10“Pam, ynteu,” gofynnodd y disgyblion, “y mae athrawon y Gyfraith yn dal i ddweud fod yn rhaid i Eleias ddod yn gyntaf?”
11Atebodd yntau, “Daw, fe ddaw Eleias i adfer pob peth. 12Ond, credwch fi, mae Eleias wedi dod eisoes, a nhwythau, heb ei adnabod yn gwneud fel y mynnen nhw ag ef; a thynged Mab y Dyn fydd dioddef dan eu dwylo nhw.”
13Yna fe ddeallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr yr oedd yn sôn wrthyn nhw.
Iacháu drwy ffydd
14Wedi iddyn nhw ddod nôl at y dyrfa, daeth ato ef ddyn gan benlinio o’i flaen 15a deisyf, “Cymer drugaredd ar fy mab, syr, mae’n epileptig ac yn dioddef yn enbyd; mae’n syrthio’n aml i’r tân ac i’r dŵr. 16Mi ddois ag ef at dy ddisgyblion di, ond fedren nhw mo’i wella.”
17“O! genhedlaeth ddigred a llygredig,” atebodd Iesu. “Pa mor hir mae’n rhaid imi fod gyda chi? Pa mor hir mae’n rhaid imi’ch dioddef chi? Dewch ag ef yma ataf fi.”
18Fe geryddodd Iesu ef, ac fe aeth y cythraul allan ohono. Ac o’r foment honno roedd y bachgen wedi’i iacháu.
19Ar ôl hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo o’r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw allan?”
20“Eich ffydd chi sy’n rhy wan,” meddai yntau. “Credwch chi fi, petai gennych ffydd ond cymaint â hedyn mwstard, fe ddywedech wrth y mynydd hwn, ‘Symud o’r fan hyn i’r fan draw,’ ac fe symudai; fyddai dim yn amhosibl ichi.”
Rhagfynegi’r groes a’r atgyfodiad
22Pan ddaethon nhw at ei gilydd yng Ngalilea, dywedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae Mab y Dyn ar gael ei roi yn nwylo dynion, 23ac fe’i lladdan nhw ef; ac ar y trydydd dydd fe’i codir o farw’n fyw drachefn.”
Fe aethon nhw’n drist iawn o glywed hyn.
Talu treth y deml
24Wedi iddyn nhw gyrraedd Capernaum, fe ddaeth casglyddion treth y Deml at Pedr a dweud wrtho, “Onid yw’ch athro chi’n talu treth y Deml?”
25“Ydy, siŵr,” meddai Pedr.
Pan ddaeth ef i’r tŷ achubodd Iesu’r blaen arno, ac meddai, “Beth yw dy farn di, Simon? Gan bwy mae brenhinoedd y byd hwn yn cael eu trethi a’u tollau — gan eu dinasyddion eu hunain neu gan bobl eraill?”
26“Gan bobl eraill,” atebodd Pedr.
“Felly,” meddai’r Iesu, “mae’r dinasyddion yn rhydd! 27Ond rhag inni beri tramgwydd i’r rhain, dos i’r llyn a bwrw fach iddo, cymer y pysgodyn cyntaf ddaw i fyny, agor ei geg, ac fe gei ddarn o arian; tâl y dreth drosom ni’n dau â hwnnw.”
Obecnie wybrane:
Mathew 17: FfN
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: