Mathew 18
18
Gwers mewn gostyngeiddrwydd
1Yr adeg honno fe ddaeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas Nefoedd?”
2Galwodd blentyn ato a’i osod yn eu canol, 3ac meddai, “Credwch fi: os na newidiwch chi’ch ffordd o fyw a dod yn debyg i blant, ewch chi byth i mewn i deyrnas Nefoedd. 4Y sawl sy’n ostyngedig fel y plentyn hwn sy fwyaf yn nheyrnas Nefoedd. 5Pwy bynnag sy’n derbyn plentyn fel hwn yn f’enw i sy’n fy nerbyn i. 6Ond pwy bynnag sy’n gyfrifol am droi i ffwrdd un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof fi, byddai’n well i hwnnw gael ei foddi yn nyfnderoedd y môr a maen melin mawr am ei wddf. 7Gwae’r byd bod cynifer o rwystrau ynddo! Rhaid eu bod, mae’n debyg, ond gwae’r sawl sy’n gyfrifol amdanyn nhw!”
Colli a chael
8“Os yw dy law neu dy droed yn d’arwain ar gyfeiliorn, tor hi i ffwrdd a’i thaflu oddi wrthyt; gwell iti fynd i’r bywyd yn anafus neu yn gloff na chadw dy ddwy law a’th ddwy droed a chael dy daflu i’r tân tragwyddol. 9Ie, ac os yw dy lygad yn dy arwain ar gyfeiliorn, tyn ef allan a’i daflu i ffwrdd; gwell iti fynd i’r bywyd ag un llygad na chael cadw’r ddau a chael dy daflu i’r uffern danllyd.
10“Gofelwch beidio â dirmygu un o’r rhai bychain hyn; rwy’n eich sicrhau chi fod ganddyn nhw angylion i’w gwarchod, sy’n wastad yn gweld wyneb fy Nhad yn y nefoedd.
12“Beth yw’ch barn chi? Bwriwch fod gan ryw ddyn gant o ddefaid, a bod un ohonyn nhw wedi crwydro, ydy ef ddim yn debyg o adael y naw deg naw ar lethrau’r mynydd a mynd i chwilio am yr un sydd ar grwydr? Ydy’n wir; 13ac os digwydd iddo’i chael hi, credwch fi, bydd mwy o lawenydd yn ei galon amdani hi nag am y naw deg naw na fuon erioed ar grwydr. 14Felly’n hollol nid yw’ch Tad Nefol yn dymuno i un o’r rhai bychain hyn gael ei golli.”
Cymod
15“Os pecha dy frawd yn d’erbyn di, dos i drafod y peth gydag ef, yn gyfrinachol rhyngoch chi a’ch gilydd. Os gwrendy ef arnat, dyna chi wedi ei adfer eto. 16Ond os bydd yn gwrthod gwrando, cymer un neu ddau arall gyda thi, fel y bydd pob gair ar gael gan ddau neu dri o dystion. 17Os bydd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, rho’r mater gerbron yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando hyd yn oed ar yr eglwys, rhaid iti ei gyfrif ef fel pagan neu gasglwr trethi.
18“Credwch fi, y peth a waherddwch chi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a’r hyn a ganiatewch chi ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd.
19“Mi ddyweda i beth arall wrthoch chi: os bydd dau ohonoch chi’n cytuno ar y ddaear ar unrhyw gais a ofynnan nhw, fe ganiateir y cais hwnnw iddyn nhw, gan fy Nhad sydd yn y nefoedd. 20Oherwydd, p’le bynnag y mae dau neu dri wedi dod at ei gilydd yn f’enw i, rydw i yno yn eu canol nhw.”
Ysbryd maddeugar
21Yna dyma Pedr yn dod ato a gofyn, “Arglwydd, sawl gwaith y disgwylir i mi faddau i’m brawd os bydd yn parhau i bechu yn f’erbyn? Cymaint â seithwaith?”
22“Na,” meddai Iesu, “nid dim ond cymaint â seithwaith, ond cymaint â saith deg seithwaith.
23“Mae teyrnas Nefoedd, felly, yn debyg i hyn: brenin yn penderfynu setlo pethau gyda’i weision. 24Wedi dechrau cyfrif, dyma ddod â dyn ato a oedd yn ei ddyled o filiynau o bunnau. 25Gan nad oedd ganddo fodd i dalu’r ddyled, dyna’i feistr yn rhoi gorchymyn i’w werthu, a’i wraig a’i blant a’i holl eiddo yn ogystal, er mwyn clirio’r ddyled. 26Dyna’r gwas ar ei liniau gerbron ei feistr, gan grefu, ‘Bydd yn amyneddgar gyda mi; fe dalaf bob dimai o’r ddyled iti.’ 27Mae meistr y gwas hwnnw yn trugarhau wrtho, yn ei ollwng yn rhydd, ac yn maddau’i ddyled. 28Ond gyda’i fod allan dyma’r gwas hwnnw’n cyfarfod ag un o’r gweision eraill a oedd yn ei ddyled ef o ychydig bunnau. Gafaelodd yn hwnnw, hanner ei dagu, a dweud, ‘Tâl dy ddyled i mi.’ 29Dyna’i gyd-weithiwr ar ei liniau ger ei fron ef gan ymbil arno, ‘Bydd yn amyneddgar gyda mi, ac fe dalaf fi’n ôl iti.’ 30Ond na, wnâi ef ddim, ac fe’i bwriodd ef i garchar nes iddo dalu’r ddyled. 31Roedd ei gyd-weithwyr wedi teimlo i’r byw wrth weld yr hyn a ddigwyddodd, a dyma nhw’n syth at eu meistr i ddweud yr holl hanes. 32Dyma’r meistr yn galw amdano. ‘Y cnaf drwg’, meddai wrtho, ‘fe faddeuais i dy holl ddyled di pan erfyniaist ti arnaf fi; 33oni ddylet ti fod wedi cymryd trugaredd ar dy gyd-was fel y cymerais i drugaredd arnat ti?’ 34Ac yn ei ddig, bwriodd ei feistr ef i garchar i’w gosbi nes iddo dalu’r holl ddyled. 35Felly’n hollol y bydd fy Nhad nefol yn delio â phob un ohonoch chi oni faddeuwch i’ch brawd â’ch holl galon.”
Obecnie wybrane:
Mathew 18: FfN
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971