Actau'r Apostolion 2:2-4
Actau'r Apostolion 2:2-4 CUG
ac fe ddaeth yn sydyn o’r nef drwst megis gwynt cryf yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddynt yn eistedd, ac ymddangosodd iddynt yn ymwahanu dafodau megis o dân, ac eisteddodd ar bob un ohonynt, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill, yn ôl fel y rhoddai’r Ysbryd iddynt ddatgan.