Ioan 18
18
1Ar ôl dywedyd hyn, aeth Iesu allan gyda’i ddisgyblion dros Nant y Cedrwydd, lle yr oedd gardd, ac aeth ef a’i ddisgyblion iddi. 2Ond gwyddai Iwdas, ei fradychwr, am y lle gan fod yr Iesu gyda’i ddisgyblion wedi ymgynnull yno droeon. 3Felly, wedi cael yr osgordd a swyddogion gan y prif offeiriaid yn ogystal â chan y Phariseaid, y mae Iwdas yn dyfod yno gyda lluserni a ffaglau ac arfau. 4Felly, gan ei fod yn gwybod popeth oedd yn dyfod arno, aeth Iesu allan ac medd ef wrthynt: “Pwy a geisiwch?” 5Atebasant iddo: “Iesu o Nasareth.” Medd ef wrthynt: “Myfi ydyw,” — ac yr oedd Iwdas, ei fradychwr, hefyd yn sefyll gyda hwy. 6A phan ddywedodd wrthynt “Myfi ydyw,” aethant yn ôl yn wysg eu cefnau a syrthiasant ar lawr. 7Felly gofynnodd wedyn iddynt: “Pwy a geisiwch?” ac meddent hwy: “Iesu o Nasareth.” 8Atebodd Iesu: “Dywedais wrthych, ‘Myfi ydyw,’ felly os myfi a geisiwch, gedwch i’r rhain fyned,” 9fel y cyflawnid y gair a ddywedodd, “Y rhai a roddaist imi, ni chollais ohonynt un.” 10Yr oedd gan Simon Pedr gleddyf a thynnodd ef a thrawodd was y prif offeiriad a thorrodd ymaith ei glust dde; ac enw y gwas oedd Malchus. 11Medd yr Iesu felly wrth Bedr: “Dyro dy gleddyf yn y wain; y cwpan y mae’r tad wedi ei roi i mi, onid yfaf ef?” 12Felly daliodd yr osgordd a’r capten a swyddogion yr Iddewon, yr Iesu, a rhwymasant ef, 13ac aethant ag ef at Annas yn gyntaf, canys yr oedd ef yn fab ynghyfraith i’r Caiaffas a oedd yn brif offeiriad am y flwyddyn honno. 24Felly anfonodd Annas ef yn rhwym at Gaiaffas y prif offeiriad. 14A Chaiaffas oedd hwnnw a roddasai gyngor i’r Iddewon ei bod yn ennill iddynt farw o un dyn dros y bobl. 15Ac yn canlyn yr Iesu yr oedd Simon Pedr, a disgybl arall, ac yr oedd y disgybl hwnnw yn gydnabod i’r prif offeiriad, ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys y prif offeiriad. 19Felly holodd y prif offeiriad yr Iesu ynghylch ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgeidiaeth. 20Atebodd Iesu iddo: “Yr wyf i wedi bod yn llefaru ar goedd i’r byd, ac yr wyf wedi dysgu bob amser yn y synagog ac yn y deml, lle y mae’r Iddewon i gyd yn ymgynnull, ac ni ddywedais ddim yn ddirgel; 21paham yr wyt yn fy holi i? Hola’r sawl a fu’n gwrando, beth a ddywedais wrthynt; dyma’r rhai sy’n gwybod beth a ddywedais.” 22Fel yr oedd yn dywedyd hyn, rhoddodd un o’r swyddogion oedd yn sefyll wrth law gernod i’r Iesu, gan ddywedyd: “Ai dyma’r ffordd yr wyt yn ateb y prif offeiriad?” 23Atebodd Iesu iddo: “Os drwg y dywedais, tystia am y drwg, — ond os da, paham yr wyt yn fy nghuro?”
16Ac yr oedd Pedr yn sefyll wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall allan, a oedd yn gydnabod i’r prif offeiriad, a siaradodd â’r forwyn wrth y drws, ac aeth â Phedr i mewn. 17Ac medd morwyn y drws wrth Bedr: “A wyt tithau hefyd yn un o ddisgyblion y dyn yma?” Medd yntau: “Nac wyf.” 18Ac yr oedd y gweision a’r swyddogion yn sefyll wrth dân glo a wnaethant, gan ei bod yn oer, ac yn ymdwymo. Ac yr oedd Pedr yn sefyll gyda hwy ac yn ymdwymo. 25Ac meddent hwy wrtho: “A wyt tithau yn un o’i ddisgyblion?” Gwadodd yntau a dywedodd: “Nac wyf.” 26Medd un o weision y prif offeiriad, perthynas i’r un y torrodd Pedr ei glust: “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?” 27A gwadodd Pedr wedyn, ac ar unwaith canodd y ceiliog.
28Ac y maent yn myned â’r Iesu oddiwrth Gaiaffas i’r Plas, ac yr oedd yn dyddio, ond nid aethant hwy eu hunain i’r Plas, rhag eu halogi, er mwyn cael bwyta’r pasg. 29Felly aeth Pilat allan atynt a dywedodd: “Pa gyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn yma?” 30Atebasant a dywedasant wrtho: “Pe na bai hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei draddodi i ti.” 31Ac medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, ac yn ôl eich cyfraith chwi bernwch ef.” Medd yr Iddewon wrtho: “Nid oes hawl gennym ni i ladd neb,” — 32fel y cyflawnid gair yr Iesu a ddywedodd i arwyddo drwy ba angeu y byddai farw. 33Felly aeth Pilat yn ei ôl i’r Plas, a galwodd ar yr Iesu a dywedodd wrtho: “Tydi yw brenin yr Iddewon?” 34Atebodd Iesu: “Ai ohonot dy hun yr wyt yn dywedyd hyn, ai eraill a ddywedodd wrthyt amdanaf?” 35Atebodd Pilat: “Ai Iddew ynteu wyf i? Dy genedl di dy hun a’r prif offeiriaid a’th roes yn fy nwylo. Beth a wnaethost?” 36Atebodd Iesu: “Nid yw fy mrenhiniaeth i o’r byd hwn. Pe bai fy mrenhiniaeth o’r byd hwn, ymladdai fy swyddogion yn erbyn fy rhoddi yn nwylo’r Iddewon. Ond, yn wir, nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.” 37Felly dywed Pilat wrtho: “O, yr wyt ti’n frenin, felly?” Atebodd yr Iesu: “Yr wyt ti’n dywedyd fy mod yn frenin. I hyn y ganed fi ac i hyn y deuthum i’r byd, — er mwyn tystio i’r gwirionedd. Y mae pob un sydd o’r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.” 38Medd Pilat wrtho: “Beth yw gwirionedd?” Ac wedi dywedyd hyn, aeth allan yn ei ôl at yr Iddewon, ac medd ef wrthynt: “Nid wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn, 39ond y mae’n arfer gennych i mi ryddhau un ar y pasg. A ddymunwch chwi felly i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” 40A gwaeddasant drachefn, gan ddywedyd: “Nid hwn ond Barabbas.” A lleidr oedd Barabbas. #18:40 Am drefn, yr adnodau yn y 18fed bennod, gweler y Rhagymadrodd.
Obecnie wybrane:
Ioan 18: CUG
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: