Luc 11

11
1A digwyddodd, pan oedd ef mewn rhyw fan yn gweddïo, wedi iddo orffen, i un o’i ddisgyblion ddywedyd wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion yntau.” 2A dywedodd wrthynt, “Pan weddïoch, dywedwch, O Dad, santeiddier dy enw; deled dy deyrnas;#11:2 Yn rhai llawysgrifau, gwneler dy ewyllys, fel yn y nef, felly ar y ddaear. 3ein bara beunyddiol#11:3 Efallai ein dogn dydd o fara. Cymh. Ecs. 16:4. rho i ni o ddydd i ddydd; 4a maddau i ni ein pechodau, canys yr ydym ni yn maddau i bawb sydd yn ein dyled; ac na ddwg ni i demtasiwn.”
5A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch fydd ganddo gyfaill, ac a â ato ganol nos, a dywedyd wrtho, ‘Gyfaill, rho’n fenthyg dair torth i mi, 6achos daeth cyfaill ataf ar ei daith, ac nid oes gennyf ddim i’w osod o’i flaen’; 7ac yntau’n ateb tu mewn, a dywedyd, ‘Paid â’m poeni; erbyn hyn y mae’r drws wedi ei gloi, ac y mae fy mhlant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a rhoi i ti.’ 8Dywedaf i chwi, hyd yn oed er na chyfyd a rhoddi iddo am ei fod yn gyfaill iddo, eto oherwydd ei daerineb fe gyfyd, a rhoi iddo gymaint ag a fo arno’i eisiau. 9Ac yr wyf i’n dywedyd wrthych, Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. 10Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir. 11Pa un ohonoch, sy’n dad, a’i fab yn gofyn iddo am bysgodyn, a ddyry iddo sarff yn lle pysgodyn? 12neu yn gofyn am wy, a ddyry iddo sgorpion? 13Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd y Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofyn iddo?”
14Ac yr oedd yn bwrw allan gythraul, a oedd yn fud; ac wedi i’r cythraul fyned allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd; 15ond dywedodd rhai ohonynt, “Trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.” 16Ac eraill, i’w brofi, a geisiai arwydd o’r nef ganddo. 17Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir, a thŷ yn erbyn tŷ#11:17 Neu a thŷ ar dŷ a syrth. 18Ac os Satan yntau a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas? — gan eich bod yn dywedyd mai trwy Feelsebwl yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid. 19Os trwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny hwy a fydd farnwyr arnoch. 20Ond os trwy fys Duw y bwriaf fi’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch. 21Pan fo’r cryf arfog yn gwarchod ei gyntedd, y mae ei eiddo yn cael llonydd; 22ond pan ddêl ei gryfach yn ei erbyn a’i orchfygu, fe gymer ymaith ei arfogaeth, yr ymddiriedai ynddi, a rhannu ei arfau. 23Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru. 24Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydra drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, a chan nad yw’n ei chael, fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; 25ac wedi dyfod fe’i caiff yn lân ac yn ddestlus. 26Yna yr â, ac y cymer ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, saith ohonynt, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad.” 27A darfu, pan oedd ef yn dywedyd y pethau hyn, i ryw wraig o’r dyrfa godi ei llais, a dywedyd wrtho, “Gwyn ei byd y groth a’th ddug, a’r bronnau a sugnaist.” 28Dywedodd yntau, “Ie, ond yn hytrach gwyn eu byd y rhai a wrendy air Duw, ac a’i ceidw.”
29A’r tyrfaoedd yn ymdyrru ato, dechreuodd ddywedyd, “Cenhedlaeth ddrwg yw’r genhedlaeth hon; y mae’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi onid arwydd Ionas. 30Canys fel y bu Ionas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn yntau i’r genhedlaeth hon. 31Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon ac a’u condemnia; canys hi ddaeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma. 32Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia; canys edifarhasant wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma. 33Ni oleua neb gannwyll a’i dodi mewn seler nac o dan gelwrn ond ar y canhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau. 34Cannwyll y corff yw dy lygad; pan fo dy lygad yn iach, dy holl gorff sydd yn olau; Ond os bydd yn ddrwg, dy gorff a fydd yn dywyll. 35Edrych, ynteu, a yw’r goleuni sydd ynot yn dywyllwch. 36Gan hynny, os yw dy gorff i gyd yn olau, heb un rhan yn dywyll, bydd yn olau i gyd, fel pan fo’r gannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.”
37Wedi iddo lefaru, gofyn Pharisead iddo giniawa gydag ef; aeth i mewn ac at y bwrdd. 38A rhyfeddodd y Pharisead wrth weled nad ymolchodd yn gyntaf cyn cinio. 39Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Yn awr yr ydych chwi’r Phariseaid yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond y tu mewn i chwi sydd lawn o ladrad a drygioni. 40Ynfydion! onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd? 41Eithr, parthed y pethau tu mewn, rhowch elusen,#11:41 Y mae dau air Aramaeg pur debyg i’w gilydd, un yn golygu rhoddi elusen, a’r llall yn golygu glanhau; awgrymir ddarfod cymysgu’r ddau yma, ac mai’r darlleniad cywir yw glanhewch y pethau tu mewn. a dyna’r cwbl yn lân gennych. 42Ond gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ryw a phob llysieuyn, ac yn troseddu yn erbyn barn a chariad Duw; dylid gwneuthur y naill, heb esgeuluso’r lleill. 43Gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn caru’r brif gadair yn y synagogau a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd. 44Gwae chwi, am eich bod fel y beddau sydd o’r golwg, a’r dynion a gerddo drostynt ni wyddant amdanynt.” 45Atebodd un o’r cyfreithwyr iddo, “Athro, wrth ddywedyd y pethau hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau hefyd.” 46Dywedodd yntau, “Gwae chwithau’r cyfreithwyr, am eich bod yn beichio dynion â beichiau annioddefol, ac ni chyffyrddwch eich hunain â’r beichiau ag un o’ch bysedd. 47Gwae chwi, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi wedi eu lladd hwynt. 48Yn wir, tystiolaethwch, a bodlonwch i weithredoedd eich tadau, — hwy yn lladd, a chwithau’n adeiladu. 49Am hynny y dywedodd Doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant, 50fel yr ymofynned gan y genhedlaeth hon am waed yr holl broffwydi a dywalltwyd o seiliad y byd, 51o waed Abel hyd waed Sacharïas, a laddwyd thwng yr allor a’r Tŷ. Ie, meddaf i chwi, ymofynnir amdano gan y genhedlaeth hon. 52Gwae chwi’r cyfreithwyr, am i chwi ddwyn allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn ceisio myned i mewn a ataliasoch.”
53Ac wedi iddo fyned ymaith oddi yno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn ddig aruthr wrtho, a’i dynnu i lefaru ar lawer pwnc, 54gan gynllwyn yn ei erbyn i ddal rhywbeth o’i enau.

Obecnie wybrane:

Luc 11: CUG

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj