Luc 21
21
1A chododd ei lygaid, a gwelodd y cyfoethogion, a oedd yn cyfrannu eu rhoddion i’r drysorfa. 2A gwelodd ryw weddw dlawd yn cyfrannu yno ddwy hatling; 3a dywedodd, “Dywedaf wrthych yn wir, y weddw dlawd hon, mwy a gyfrannodd na phawb; 4canys y rhain oll, o’u gweddill y cyfranasant at y rhoddion; ond hon o’i phrinder a gyfrannodd y cwbl a oedd ganddi at ei byw.”
5A phan oedd rhai’n dywedyd am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini teg a rhoddion, 6fe ddywedodd, “Am y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, fe ddaw dyddiau pryd na adewir maen ar faen heb ei ddymchwel.” 7Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd, tybed, y bydd y pethau hyn, a beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?” 8Dywedodd yntau, “Edrychwch na’ch twyller chwi; canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd ‘Myfi yw’ â ‘Nesaodd yr amser’; nac ewch ar eu hôl. 9A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na ddychrynwch; canys rhaid i’r pethau hyn ddyfod yn gyntaf, eithr nid ar unwaith y daw’r diwedd.” 10Yna meddai wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, 11bydd daeargrynfâu mawrion a phlâu a newynau mewn amryw leoedd, bydd dychrynfeydd ac arwyddion mawrion o’r nef. 12Ond cyn y pethau hyn oll rhoddant eu dwylo arnoch, ac erlidiant chwi, gan eich traddodi i’r synagogau ac i garcharau, a’ch llusgo gerbron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos fy enw i; 13fe dry i chwi yn dystiolaeth. 14Rhoddwch eich bryd, ynteu, ar beidio â pharatoi ymlaen llaw i’ch amddiffyn eich hunain; 15canys rhoddaf i i chwi leferydd, a doethineb na fedr eich gwrthwynebwyr ei gwrthsefyll na’i gwrthddywedyd. 16Bradychir chwi gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion, a rhoddant rai ohonoch i farwolaeth, 17a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i. 18Ac ni chollir un blewyn o’ch pen. 19Trwy eich dioddefgarwch bydd i chwi ennill eich eneidiau. 20Ond pan welwch amgylchu Caersalem gan fyddinoedd, y pryd hwnnw gwybyddwch fod ei difrod hi gerllaw. 21Yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd, ac aed y rhai a fydd ynddi hi allan, ac nac aed y rhai a fydd yn y wlad i mewn iddi, 22canys dyddiau dial yw’r rhain, i gyflawni’r cwbl sy’n ysgrifenedig. 23Gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! Canys bydd cyni mawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hyn; 24a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaethgludir hwynt i’r holl genhedloedd, a bydd Caersalem yn fathredig gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amserau’r cenhedloedd. 25A bydd arwyddion yn yr haul a’r lloer a’r sêr, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn cyfyng-gyngor gan ruad môr a thonnau, 26dynion yn llewygu gan ofn a disgwyl y pethau sy’n dyfod ar y byd; canys nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27A’r pryd hwnnw y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gallu a gogoniant mawr. 28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, ymsythwch a chodwch eich pennau, am fod eich ymwared yn nesáu.” 29A dywedodd ddameg wrthynt, “Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau; 30pan fwriant weithian ddail, chwi welwch a gwyddoch ohonoch eich hunain fod yr haf bellach yn agos. 31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos. 32Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo’r cwbl oll. 33Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim. 34Ymogelwch rhag un amser i’ch calonnau gael eu llethu gan syrffed a meddwdod a gofalon bywyd, ac i’r dydd hwnnw ddyfod arnoch yn ddisymwth 35fel magl; canys fe ddaw ar warthaf pawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36Byddwch effro, gan weddïo bob amser am gael nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd i ddigwydd, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.”
37Ac yr oedd yn dysgu yn y deml bob dydd, a phob nos âi allan a’i threulio ar y mynydd a elwir Olewydd. 38A’r holl bobl a gyrchai ato yn fore i’w glywed yn y deml.
Obecnie wybrane:
Luc 21: CUG
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: