Mathew 3

3
1Yn y dyddiau hynny dyma Ioan Fedyddiwr yn dyfod a phregethu yn niffeithwch Iwdea, 2gan ddywedyd, “Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.” 3Canys hwn yw’r un y llefarwyd amdano trwy Eseia’r proffwyd:
Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch,
Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch ei lwybrau ef.
4A’r Ioan hwnnw oedd â’i wisg o flew camel, a gwregys croen am ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5Yna’r âi allan ato Gaersalem a holl Iwdea a holl gymdogaeth yr Iorddonen; 6a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 7Ac wrth weled llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dyfod i’r bedydd fe ddywedodd wrthynt, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8Dygwch, ynteu, ffrwyth teilwng o’ch edifeirwch; 9ac na feddyliwch am ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad,’ canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. 10Eisoes y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr, a’i daflu yn tân. 11Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio chwi â#3:11 Neu, mewn dwfr i edifeirwch; ond yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl, cryfach yw na mi, ac nid wyf deilwng i dynnu ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r#3:11 Neu, yn yr Ysbryd Glân ac â thân; 12â’i wyntyll sydd yn ei law, ac fe lwyr-lanha ei lawr dyrnu, a chasgl ei ŷd i’r ysgubor, ond yr us a lysg â thân anniffoddadwy.”
13Yna dyma’r Iesu yn dyfod o Galilea hyd at yr Iorddonen at Ioan i’w fedyddio ganddo. 14Gwrthodai yntau, gan ddywedyd, “Arnaf i y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti’n dyfod ataf i?” 15Ac atebodd yr Iesu iddo, “Caniatâ yn awr; canys felly y mae’n weddus inni gyflawni pob peth iawn.” Yna fe ad iddo. 16A bedyddiwyd yr Iesu, ac yn ebrwydd esgynnodd o’r dwfr; a dyna’r nefoedd yn ymagor, a gwelodd Ysbryd Duw’n disgyn megis colomen ac yn dyfod arno; 17a dyma lef o’r nefoedd yn dywedyd, “Hwn yw fy mab annwyl#3:17 Neu, fy Mab, yr Anwylyd a ryngodd fy modd.”

Obecnie wybrane:

Mathew 3: CUG

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj