Mathew 6:16-18
Mathew 6:16-18 CUG
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr yn aflawen eich gwedd; canys difwyno’u hwynebau y maent, er mwyn ymddangos i ddynion fel ymprydwyr; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. Ond tydi, pan ymprydych, eneinia dy ben a golch dy wyneb, rhag it ymddangos i ddynion fel ymprydiwr, eithr i’th Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.