Tytws 3

3
Y iij Cytpen
1Rhybuddia hwynt ar ymostwng o honynt hwy eu hûnain tan rol a phower: ar vfyddhau ir swydd[[ogwr]]wyr: ar fod yn barawd i bob gorchwyl da: 2ar na ddoytont ddrwg am neb: na bont ymgrokyswyr: eithr yn [[rhowiogaidd]] foneddigaidd yn dangos pob rhowiogrwydd i bob dyn: 3Cans ninaû oeddem ryw amser ffolion anûfydd, siomedig, yn gwasneuthû ymrafael ynni a thrachwant: yn byw mewn malais a chenfigen: [yn atkas] (anhowddgar) yn kasaû bawb i gilidd: 4Eithr ar ol i gredigrwydd a serch eyn keidwad duw tuagatt ddyn ymrithiaw: 5nid am weithredoedd kyfiownedd a wnaythasom ni: eithr ar ol eu drugaredd i gwnaeth ni yn gadwedig trwy ffynnon yr ail enedigaeth: ag adnewddiad yr ysbryd glan: 6rhwn a dowalloth ef arnom i yn helayth trwy grist iesu eyn keidwad: 7mal i gallem i kyfiownedig trwy i ras ef gael yn gwneuthyr yn ytifeddion ar ol gobaith y bowyd tragwyddol: 8ymadrodd diammaû: ar pethau hyn i myna ytt, eû sikerhau hwynt, mal i gallo yrhai a grettant [[ynw]] ynûw fod yn ddyfal i ymorchestu mewn gweithredoedd da: Cans y pethau hyn sy dda a ffroffidiol i ddynion: 9Eithr questiwne ffolion ag achaû ag ymrafaylion, ag ymryson ynghylch y gyfraith gad heibio hwynt: Cans amrhoffidiol ydynt ac overaidd: 10y dyn a fo awdur pleidiaû ar ol y rhybydd kyntaf ar ail gochel ef: 11dan wybod fod yn ddymchweledig y kyfriw: ai fod yn pechu yn golledig trwy i waith i hûn 12pan [[ddanfonwy]] yrrwy artemas attat neû tychycws brysia i ddyfod attaf i nicopolys: Cans yno i bwriedais fwrw r gayaf: 13gwna yn ddisceûlus ddanfon zenas y kyfreithwr ag apolos ar i siwrnai rhag bod dim eisiau arnynt: 14a dyscant yr eiddominaû hefyd ragori mewn gweithredoedd da: kimin ag a fo anghenrheidiol: mal no bothont di ffrwythlawn: 15may pawb ar sydd gyda myfi yn erchi dannerch: Annerch y rhai an kar yn y ffydd. Gras a fo gida chwi oll amen.
Hon a yscrifennwyd o fewn nycopolys
dinas i fewn masedonia.

Obecnie wybrane:

Tytws 3: RDEB

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj