Psalmau 21

21
Y Psalm. XXI. Ofer‐fesur, a elwir ‘Trybedd Menaich.’
1O’th nerth y brenhin haelwin hwyliyd,
A llawen iechyd ei llonnychaist!
2A fynnai gwelai ei lan galon,
Wiwdha arwydhion, idho a rodhaist.
Rhodhyd a mynnyd ei dhymuniant
Idho ’n hoff welliant dhawn, ni phallaist;
3Bendithion haelion dan yr heulwawr,
Y rhywiog Flaenawr, ti a’i rhagflaenaist.
Ac o aur, buraur, teg yw ’r bwriad,
I’w goryn sad coron osodaist:
4Gofynodh yn rhodh i gyrhaedhyd
Hir fywyd, ennyd idho doniaist.
5I’th iechydwriaeth ffraeth y ffrwythant,
I wir ogoniant a war genaist;
Urdhasawl rheidiawl fawr anrhydedh,
O ran ei fawredh, arno a fwriaist.
6Fal bendith dichwith yw dy iechyd,
Abl yw o ennyd, ef a blennaist:
Llawenwych haelwych iawn a hylaw,
A’i obaith aelaw, byth a wiliaist.
7Gobaith y brenhin, Duw a’i gwybydh,
Yndho ef a fydh, mae ’n dha fy lon;
A hwn ni lithra, wycha uchedh,
O wir drugaredh Iôr dewr, gwirion.
8I law yn hylaw man ei heliodh
Yno a dhilynodh ei elynion;
A’i dheheulaw draw, fy un Duw Dri,
I dhugas hogi ei dhigasogion.
9I’th lid gas odid eu gosodi
Fal ffwrnais losgi berwi peirion;
Ac o’i lid prid bid parod o beth
Yno yw difeth oni deifion.
10Dinystriad eu had ar eu hedeg
O dhaear dhifreg dhuoer dhwyfron
A’u ffrwyth a’u dylwyth y dïaler,
Abl iawn tynner odhiwrth blant dynion
11I’th erbyn Duw gwỳn a dig anial,
O dyfu sisial, dyfeisiason;
A mawrdhrwg a gwg yn eu gwegi,
Anniwall oesi; ni ennillason.
12A hyn yn llinyn er eu llenwi,
Di a’u gwasgeri dy gas geirwon
Dy fwa eisoes, difai oseb,
Parawd yw hwyneb, oera dynion.
13Moliant adholiant it’ a dhyler
Ein Nêr, derchafer drwy or’chafion;
A hynny yn brydferth i ’n Duw nerthawl,
I’w allu bo mawl a duwiawl dôn.

Obecnie wybrane:

Psalmau 21: SC1595

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj