බයිබල් යෙදුම් ලාංඡනය
සෙවුම් නිරූපකය

Rhufeiniaid 10

10
1Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i’n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub. 2Galla i dystio eu bod nhw’n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd. 3Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw’r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw. 4Ond y Meseia ydy’r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy’n credu ynddo fe sy’n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw.
5Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy’n gwneud y pethau yma sy’n cael byw go iawn.”#Lefiticus 18:5
6Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i’r nefoedd?” #Deuteronomium 30:12 (hynny ydy, i ddod â’r Meseia i lawr) 7neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i’r dyfnder”#Deuteronomium 30:13 (hynny ydy, i ddod â’r Meseia yn ôl yn fyw). 8Dyma mae’n ei ddweud: “Mae’r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.”#Deuteronomium 30:14 (Hynny ydy, y neges dŷn ni’n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy’r ffordd): 9Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. 10Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny’n agored. 11Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.”#Eseia 28:16 (LXX) 12Mae’n union yr un fath i’r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae’n rhoi yn hael o’i fendithion i bwy bynnag sy’n galw arno. 13Achos, “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.”#Joel 2:32
14Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw’n mynd i gredu ynddo heb glywed amdano? Sut maen nhw’n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? 15A phwy sy’n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da yn dod!”#Eseia 52:7 (cf. Nahum 1:5) 16Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae’r proffwyd Eseia’n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?”#Eseia 53:1 (LXX)
17Mae’n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu’r newyddion da am y Meseia. 18Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol:
“Mae pawb wedi clywed beth maen nhw’n ddweud,
a’u neges wedi mynd i ben draw’r byd.” # Salm 19:4 (LXX)
19Felly, ai’r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! – Moses ydy’r cyntaf i roi ateb,
“Bydda i’n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw’n genedl;
a’ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy’n deall dim.” # Deuteronomium 32:21
20Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud,
“Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi;
Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.” # Eseia 65:1 (LXX)
21Ond mae’n dweud fel yma am Israel:
“Bues i’n estyn fy llaw atyn nhw drwy’r adeg,
ond maen nhw’n bobl anufudd ac ystyfnig.” # Eseia 65:2 (LXX)

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Rhufeiniaid 10: bnet

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න