Logoja YouVersion
Ikona e kërkimit

Marc 16:14-18

Marc 16:14-18 DAW

Ar ôl hyn i gyd, ymddangosodd Iesu i'r un disgybl ar ddeg pan oedden nhw'n cael bwyd, a dwedodd wrthyn nhw am eu diffyg ffydd a'u hystyfnigrwydd yn peidio â chredu'r rhai oedd wedi'i weld ar ôl iddo atgyfodi. Dwedodd, “Ewch i'r holl fyd a chyhoeddwch y Newyddion Da i bawb. Bydd y rhai sy'n credu a chael eu bedyddio yn cael eu hachub, ond bydd y rhai sy'n gwrthod credu yn cael eu condemnio. Hefyd, bydd y credinwyr yn gallu bwrw allan gythreuliaid yn fy enw i, a siarad mewn ieithoedd dieithr. Ddaw dim niwed iddyn nhw o afael mewn nadroedd nac o yfed gwenwyn marwol, a phan ddodan nhw eu dwylo ar gleifion, bydd rheini'n gwella.”