Logoja YouVersion
Ikona e kërkimit

Marc 9:38-41

Marc 9:38-41 DAW

Dwedodd Ioan wrth Iesu, “Athro, fe welson ni ddyn yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, ac fe geision ni ei rwystro achos doedd e ddim yn un ohonon ni.” Atebodd Iesu nhw a dweud, “Peidiwch â'i rwystro, achos ni all unrhyw un sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i siarad yn ddrwg amdanaf wedyn. Os nad ydy dyn yn ein herbyn, mae e droson ni. Felly, fe gaiff pwy bynnag sy'n rhoi cwpanaid o ddŵr i chi am eich bod yn perthyn i'r Meseia, ei wobrwyo.