YouVersion logo
Dugme za pretraživanje

Marc 3:31-35

Marc 3:31-35 DAW

Daeth mam Iesu a'i frodyr i'r lle roedd, a dyma nhw'n anfon gair ato i'w alw i ddod atyn nhw. Roedd y dyrfa'n eistedd o'i amgylch a dwedodd rhai ohonyn nhw, “Mae dy fam a dy frodyr di draw acw yn chwilio amdanat ti.” Atebodd yntau, “Pwy ydy fy mam a fy mrodyr i?” Edrychodd Iesu ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas, a dwedodd, “Dyma fy mam a fy mrodyr. Mae pob un sy'n gwneud ewyllys Duw yn frawd, yn chwaer ac yn fam i mi.”