Matthew Lefi 6:7-13

Matthew Lefi 6:7-13 CJW

A mewn gweddi, nac arferwch luosogrwydd o eiriau, fel y gwna y Paganiaid, y rhai á dybiant, y gwna arfer llawer o eiriau, ennill iddynt gymeradwyaeth. Nac efelychwch hwynt; oblegid gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch iddo. Gweddiwch chwi, gan hyny, fel hyn:– Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier dy enw; deled dy Deyrnasiad; gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly àr y ddaiar hefyd; dyro i ni heddyw ein bara peunyddiol; maddau i ni ein dyledion, fel yr ydym ninnau yn maddau i’n dyledwyr; a nac arwain ni i brofedigaeth, ond cadw ni rhag drwg.