Matthew Lefi 9

9
1-8Yna gwedi myned o hono àr fwrdd y llong, efe á aeth drosodd drachefn, ac á ddaeth iddei ddinas ei hun; lle y dygasant ato un parlysig, wedi ei ddodi àr wely. Iesu, yn canfod eu ffydd hwynt, á ddywedodd wrth y parlysig, Fab, cymer gysur, maddeuwyd i ti dy bechodau. Ar hyny rhai o’r ysgrifenyddion á ddywedasant ynynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. Ond Iesu, yn gwybod eu meddyliau, á ddywedodd, Paham yr ydych yn achlesu meddyliau drwg? Pa un hawddach – dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau ai dywedyd, yn effeithiol, Cyfod a rhodia? Ond fel y gwybyddoch bod gàn Fab y Dyn awdurdod àr y ddaiar i faddau pechodau; Cyfod, gàn hyny (meddai efe wrth y parlysig), cymer i fyny dy wely, a dos adref. Yn ganlynol efe á gyfododd ac á aeth adref. A’r bobl á welsant, ac á ryfeddasant, gàn ogoneddu Duw, yr hwn á roddasai y fath awdurdod i ddynion.
9Fel yr oedd Iesu yn ymadael oddyno, efe á welai ddyn, a’i enw Matthew, yn eistedd wrth y dollfa; wrth yr hwn y dywedodd efe, Canlyn fi. Ac efe á gyfododd, ac a’i canlynodd ef.
10-13Gwedi hyny, fel yr oedd Iesu wrth y bwrdd mewn tŷ, llawer o dollwyr a phechaduriaid á ddaethant, ac á osodasant eu hunain gydag ef, a’i ddysgyblion. Rhai o’r Phariseaid, wedi canfod hyn, á ddywedasant wrth ei ddysgyblion ef, Paham y mae eich Athraw chwi yn bwyta gyda thollwyr a phechaduriaid? Iesu, gwedi eu clywed hwynt, á atebodd, Ni raid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion. Ewch, gàn hyny, á dysgwch beth y mae hyn yn ei feddwl, “Trugaredd á ewyllysiwyf, a nid aberth:” canys daethym i alw, nid y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.
14-17Yna dysgyblion Iöan gàn ei gyfarch ef, á ddywedasant, Yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych: paham nad yw dy ddysgyblion di byth yn ymprydio? Iesu á atebodd, A all y priodweis alaru tra y mae y priodfab gyda hwynt? Ond yr amser á ddaw, pan ddygir y priodfab oddarnynt, ac yna yr ymprydiant. Nid yw neb yn trwsio hen ddilledyn â brethyn #9:14 Heb ei drin, neu ei bànu.cri; os amgen y clwt ei hun á ddryllia y dilledyn, ac á wna rwyg mwy. Nid yw pobl chwaith yn dodi gwin newydd mewn hen gostrelau lledr; os amgen y costrelau á ymrwygant; a felly y gwin á gollir, a’r costrelau á wnêir yn ddiddefnydd. Ond dodant win newydd mewn costrelau newyddion, a’r ddau á gedwir.
18-22Tra yr ydoedd efe yn llefaru, pènaeth á ddaeth, a chàn ymgrymu, á ddywedodd, Y mae fy merch erbyn hyn wedi marw; ond dyred a gosod dy law arni, a hi á adfywâa. Ac Iesu á gododd, a fel yr oedd efe yn ei ddylyn ef, gyda’i ddysgyblion, gwraig, yr hon á fuasai ddeg a dwy flynedd yn cael ei blino gàn ddyferlif gwaed, gàn ddyfod o’r tu ol, á gyfhyrddodd á siobyn ei fantell ef; canys dywedasai ynddi ei hun, Os cyfhyrddaf ond â’i fantell ef, iach fyddaf. Iesu gwedi troi oddamgylch, á’i gwelai hi, ac á ddywedodd, Ferch, cymer gysur, dy ffydd á’th iachâodd. A’r wraig o fu iach o’r cythrym hwnw.
23-26Gwedi dyfod i dŷ y pènaeth, a gweled y #9:23 Chwarëwyr àr y chwibanon, neu y bibell.chwibanyddion a’r dyrfa yn terfysgu, efe á ddywedodd wrthynt, Ciliwch, canys nid yw y ferch ieuanc wedi marw, ond cysgu y mae. Hwythau á’i gwatwarasant ef; ond wedi bwrw y bobl allan, efe á aeth i fewn, a gwedi ei chymeryd hi erbyn ei llaw, y ferch ieuanc á gyfododd. A’r sôn am y weithred hon á ymdaenodd dros yr holl wlad hòno.
27-31Gwedi i Iesu ymadael oddyno, dau o ddeillion á’i canlynasant ef, gàn lefain, Mab Dafydd, tosturia wrthym. Wedi dyfod i’r tŷ, y deillion á nesâsant ato; ac Iesu á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf wneuthur hyn? Hwythau á atebasant, Ydym, Feistr. Yna efe á gyfhyrddodd â’u llygaid, gan ddywedyd, Bydded i chwi yn ol eich ffydd. Yn ddiannod eu llygaid á agorwyd. Ac Iesu, gàn orchymyn iddynt yn gaeth, á ddywedodd, Cymerwch ofal na byddo i neb wybod hyn. Ond wedi iddynt ymadael, hwy á daenasant ei arglod ef dros yr holl wlad hòno.
32-34Prin yr oeddynt wedi myned, pan y cyflwynwyd iddo fudan cythreulig. Wedi bwrw y cythraul allan, y mudan o siaredodd, a’r bobl á ryfeddasant, gàn ddywedyd, Ni welwyd erioed beth fel hyn yn Israel. Ond y Phariseaid á ddywedasant, Drwy dywysog y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y cythreuliaid.
DOSBARTH V.
Yr Archeb i’r Apostolion.
35-38Yna Iesu á aeth drwy yr holl ddinasoedd a’r pentrefydd, gàn ddysgu yn eu cynnullfëydd, a chyhoeddi Newydd da y Teyrnasiad, ac iachâu pob clefyd a phob anhwyl. Ond pàn welodd efe y tyrfëydd, efe á dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi eu blino a’u gwasgaru, fel dëadell heb fugail. Yna efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Y cynauaf sy doreithiog, ond y medelwyr yn ychydig: deisyfwch, gàn hyny, àr Arglwydd y cynauaf, anfon llafurwyr iddei fedi.

Märk

Dela

Kopiera

None

Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in