Pe deuai byddin i’m herbyn, ni fyddwn yn ofnus.
Pe deuai rhyfel i’m rhan, mi a fyddwn hyderus.
Un peth gan Dduw
A geisiais i, sef cael byw
Byth yn ei dŷ tangnefeddus.
A gofyn iddo am gyngor, cans yn nydd enbydrwydd
Fe’m cyfyd i
Ar graig o afael y lli.
Cuddia fi ym mhabell ei sicrwydd.