1
Genesis 3:6
Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol
Pan welodd y wraig mai dâ oedd [ffrwyth] y prenn yn fwyd, ac mai têg mewn golwg ydoedd, ai fod yn brenn dymunol i beri deall, yna hi a gymmerth oi ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes iw gŵr hefyd gyd a hi, ac efe a fwyttaodd.
เปรียบเทียบ
สำรวจ Genesis 3:6
2
Genesis 3:1
A’r sarph oedd gyfrwysach na holl fwyst-filod y maes, y rhai a wnaethe yr Arglwydd Dduw, a hi a ddywedodd wrth y wraig, ai diau ddywedyd o Dduw na chaech chwi fwytta o holl brennau’r ardd?
สำรวจ Genesis 3:1
3
Genesis 3:15
Gelyniaeth hefyd a ossodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy hâd ti, ai hâd hithe: efe a yssiga dydi, a thithe a yssigi ei sodl ef.
สำรวจ Genesis 3:15
4
Genesis 3:16
Wrth y wraig y dywedodd, gan amlhau yr amlhaf dy boenau di, a’th feichiogi, mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad [fydd] at dy ŵr, ac efe a feistrola arnat ti.
สำรวจ Genesis 3:16
5
Genesis 3:19
Trwy chwŷs dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaiar; o blegit o honi i’th gymmerwyt, canys pridd [wyt] ti, ac i’r pridd y dychweli.
สำรวจ Genesis 3:19
6
Genesis 3:17
Hefyd wrth Adda y dywedodd, am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r prenn am yr hwn y gorchymynnaswn i ti gan ddywedyd, na fwytta o honaw: melltigedic [fydd] y ddaiar oth achos di, a thrwy lafur y bwyttei o honi holl ddyddiau dy enioes.
สำรวจ Genesis 3:17
7
Genesis 3:11
Yna y dywedodd [Duw:] pwy a fynegodd i ti mai noeth [oeddyt] ti? ai o’r prenn yr hwn y gorchymynnaswn i ti na fwytteit o honaw, y bwytteaist?
สำรวจ Genesis 3:11
8
Genesis 3:24
Felly efe a yrrodd allan y dŷn, ac a ossododd o’r tu dwyrain i ardd Eden, y cerubiaid, a llafn y cleddyf tanllyd yscwydedig, i gadw ffordd prenn y bywyd.
สำรวจ Genesis 3:24
9
Genesis 3:20
A’r dŷn a alwodd henw ei wraig Efa: o blegit hi oedd fam pob [dŷn] byw.
สำรวจ Genesis 3:20
หน้าหลัก
พระคัมภีร์
แผนการอ่าน
วิดีโอ