Rhodded Duw iti o wlith y nefoedd,
o fraster y ddaear, a digon o ŷd a gwin.
Bydded i bobloedd dy wasanaethu di,
ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen;
bydd yn arglwydd ar dy frodyr,
ac ymgrymed meibion dy fam iti.
Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio,
a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio.”