Ioan 3
3
Yr Iesu a Nicodemus
1Un noson a hithau’n dywyll, fe ddaeth dyn o’r enw Nicodemus at yr Iesu. Un o’r Phariseaid oedd ac un o reolwyr yr Iddewon. 2“Syr,” meddai, “rydym ni’n gwybod dy fod di’n athro wedi dod oddi wrth Dduw, ac onibai bod Duw gyda thi, fyddet ti ddim yn medru gwneud yr arwyddion rwyt ti yn eu gwneud.”
3“Cred fi,” meddai’r Iesu, “os na chaiff dyn ei eni o Dduw, wêl ef byth deyrnas Dduw.”
4“Sut mae’n bosibl,” meddai Nicodemus, “i hen ddyn gael ei eni? All ef ddim mynd yn ôl i groth ei fam a chael ei eni am yr ail waith — na all?”
5“Cred fi,” meddai’r Iesu, “fedr neb fynd i mewn i deyrnas Dduw heb gael ei fedyddio a dod o dan ddylanwad yr Ysbryd. 6Fedr cnawd roi dim ond cnawd; rhaid cael Ysbryd i roi Ysbryd. 7Ddylet ti ddim synnu, felly, fy mod i wedi dweud, ‘Rhaid eich geni chi o Dduw.’ 8Mae’r gwynt yn chwythu lle mynno; fe elli di glywed ei sŵn, ond wyddost ti ddim o ble mae’n dod, nac i ble mae’n mynd. Mae’r un peth yn wir am y sawl sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.”
9“Sut mae hyn yn bosibl?” gofynnodd Nicodemus.
10“Beth!” meddai’r Iesu. “Wyt ti’n Athro Ysgrythur enwog yn Israel, a heb wybod y pethau hyn? 11Cred fi, fe lefarwn ni am yr hyn a wyddom, a thystio a wnawn i rywbeth rydym ni wedi’i weld; ond dydych chi ddim am dderbyn ein gair ni. 12Os nad ydych chi’n fy nghredu i a minnau wedi siarad wrthych am bethau’r ddaear, sut medrwch chi gredu pan fyddaf fi’n siarad am bethau’r nefoedd? 13Does neb erioed wedi mynd i fyny i’r nefoedd, ar wahân i’r un a ddaeth lawr o’r nefoedd, a Mab y Dyn yw hwnnw. 14Ac fe fydd rhaid codi Mab y Dyn i fyny yr un fath ag y cododd Moses y sarff yn y tir diffaith, 15fel y bydd pawb sy’n fodlon ymddiried ynddo yn cael bywyd nefol.
16“Do, fe garodd Duw bobl mor angerddol nes rhoi’r Unig Fab oedd ganddo, fel na chaiff neb sy’n ymddiried ynddo ei ddifetha, ond fel y caiff y bywyd nefol. 17Nid anfon ei Fab i’r byd i fod yn Farnwr a wnaeth Duw ond i fod yn Waredwr y byd.
18“Nid yw’r sawl sy’n ymddiried ynddo ef yn cael ei farnu; mae’r sawl sy’n gwrthod credu wedi cael ei farnu’n barod am wrthod bod yn ffyddlon i Unig Fab Duw. 19Dyma ddull y barnu; er bod goleuni wedi dod i’r byd, mae dynion wedi dewis y tywyllwch yn lle’r goleuni am fod eu gweithredoedd nhw’n ddrwg. 20Mae’n ffiaidd gan y drygionus y goleuni ac y maen nhw yn ei osgoi rhag i’w gweithredoedd drwg nhw gael eu dangos. 21Ond mae’r dyn gonest yn croesawu’r goleuni sy’n dangos yn eglur mai yn Nuw y gwneir popeth y mae’n ei wneud.”
Yr Iesu ac Ioan eto
22Ar ôl hyn fe aeth yr Iesu a’i ddisgyblion i Jwdea, ac fe arhosodd yno gyda nhw; ac yno roedd ef yn bedyddio. 23Roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim — roedd digon o ddŵr yn y fan honno — ac fe âi pobl yno i’w bedyddio. 24Roedd hyn cyn i Ioan gael ei daflu i’r carchar.
25Fe gododd dadl rhwng disgyblion Ioan ac un o’r Iddewon ynglŷn â’r arfer o ymolchi oedd yn perthyn i grefydd yr Iddewon. 26Felly dyma fynd at Ioan a gofyn, “Athro, rwyt ti’n cofio’r dyn hwnnw oedd gyda thi yr ochr draw i’r Iorddonen, hwnnw roeddet ti yn dweud amdano? Mae ef yn bedyddio yn awr ac mae pawb yn mynd ato.”
27A dyma Ioan yn ateb: “Fedr dyn ddim derbyn dim byd os na bydd Duw yn ei roddi iddo. 28Fe wyddoch chi’n iawn beth a ddywedais i: ‘Nid fi yw’r Meseia, ond fe gefais i f’anfon o’i flaen ef.’ 29Y sawl sydd â’r briodferch ganddo, hwnnw yw’r priodfab, ond am y gwas priodas sy’n sefyll wrth ei ochr ac yn gwrando, mae’n llawen iawn wrth glywed ei lais. Dyma’r llawenydd sy’n byrlymu yn fy nghalon yn awr. 30Hwn sydd i fynd yn fwy ac yn fwy, a finnau’n llai ac yn llai.
31“Mae’r hwn sy’n dod o Dduw uwchlaw pawb, mae’r hwn sydd o’r ddaear yn ddaearol ac yn defnyddio iaith y ddaear. 32Am y pethau y mae ef wedi eu gweld a’u clywed y mae’r Un sy’n dod o’r nefoedd yn sôn; eto does neb yn derbyn ei dystiolaeth. 33Ond pwy bynnag sydd wedi derbyn ei air sydd yn gwarantu fod Duw’n dweud y gwir, 34achos mae’r sawl mae Duw wedi’i anfon yn siarad geiriau Duw; ac nid mesur bach o’r Ysbryd mae Duw yn ei roi. 35Mae’r Tad yn caru’r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei law. 36Y sawl sy’n ymddiried yn y Mab — caiff ddechrau’r bywyd aruchel yn awr, ond chaiff yr un sy’n anufudd i’r Mab mo’r bywyd hwnnw — fe fydd ef yn byw o dan ddicter Duw.”
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Ioan 3: FfN
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: