Ioan 6
6
Arwydd y torthau
1Ar ôl hyn, fe aeth yr Iesu ar draws Môr Galilea (neu 2Diberias) a chafodd ei ddilyn gan dyrfa fawr. Roedd yr arwyddion a wnâi ar y cleifion wedi gadael argraff arnyn nhw. 3Fe aeth yr Iesu i fyny i fryn, ac eistedd yno gyda’i ddisgyblion. 4Roedd hyn ychydig cyn y Pasg, gŵyl fawr yr Iddewon. 5Pan gododd yr Iesu ei olwg a gweld y dyrfa fawr yn nesu ato, meddai wrth Philip, “Ble medrwn ni brynu digon o ymborth i fwydo’r rhain i gyd?” 6Fe ddywedodd hyn er mwyn ei brofi, oherwydd ei fod ef ei hun yn gwybod beth oedd ar fin ei wneud.
7“Fyddai gwerth ugain punt o fara ddim yn ddigon i gael hyd yn oed ychydig i bob un,” atebodd Philip.
8Ac meddai un o’i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, wrtho, 9“Mae gan fachgen fan hyn bum torth haidd a dau bysgodyn — ond beth a dâl hynny i dyrfa fel hyn?”
10“Dywedwch wrth y bobl am eistedd,” meddai’r Iesu.
Roedd digon o laswellt yno, felly dyma’r bobl yn eistedd: roedd yno tua phum mil o ddynion. 11Yna fe gymerodd yr Iesu y torthau, talu diolch, a’u rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Fe wnaeth yr un peth â’r pysgod, ac fe gafodd pawb ei wala. 12Ac wedi i bawb gael eu digoni, meddai wrth y disgyblion, — “Casglwch y briwsion sydd dros ben; peidiwch â gwastraffu dim.”
13A dyma’u casglu nhw, nes llanw deuddeg basged o’r darnau oedd heb eu bwyta o’r pum torth.
14Pan welodd y bobl yr arwydd a wnaeth yr Iesu, fe ddechreuson ddweud, “Does dim dadl: hwn yw’r proffwyd oedd i ddyfod i’r byd.” 15Wedi deall eu bod am ddyfod a’i gipio drwy drais i’w wneud yn frenin, fe giliodd yr Iesu eto o’r neilltu i’r bryniau wrtho’i hun.
Yr Iesu’n cerdded ar y dŵr
16Yna, fin nos, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, 17i’w cwch, a chroesi’r dŵr i Gapernaum. Yn awr roedd hi wedi nosi, ond doedd yr Iesu ddim eto wedi ymuno â nhw. 18Erbyn hyn, chwythai storm o wynt, gan wneud y môr yn arw. 19Wedi rhwyfo tua thair neu bedair milltir, fe welson nhw’r Iesu yn cerdded ar y môr, ac yn nesu at y cwch, ac fe gawson fraw.
20Ebe ef wrthyn nhw, “Fi sydd yma, peidiwch ag ofni.” 21Felly roedden nhw’n barod i’w gymryd i’r cwch, ond ar unwaith fe gyrhaeddodd y cwch y tir roedden nhw’n anelu ato.
Iesu’r bara bywiol
22Drannoeth, roedd y dyrfa yn aros ar y lan arall o hyd. Un cwch yn unig roedden nhw wedi’i weld yno ac fe wydden yn iawn nad oedd yr Iesu wedi mynd i’r cwch gyda’i ddisgyblion; roedden nhw wedi mynd hebddo. 23Beth bynnag, daeth cychod o Diberias i ymyl y fan lle cawson nhw fwyd wedi i’r Arglwydd ddiolch. 24Felly pan welodd y dyrfa nad oedd yr Iesu na’i ddisgyblion yno mwyach, dyma fynd i’r cychod hyn a chroesi i Gapernaum i chwilio am yr Iesu. 25Ac fe gawson hyd iddo yr ochr arall.
“Athro,” medden nhw, “pryd daethost ti yma?”
26A dyma ateb yr Iesu, “Y gwir yw i chi ddod i chwilio amdanaf fi oherwydd i chi gael pryd da o fwyd, nid oherwydd i chi weld arwyddion o’m gallu. 27Rhaid i chi weithio, nid am y bwyd sy’n darfod, ond am y bwyd sy’n para, y bwyd sy’n rhoi’r bywyd nefol.
“Fe rydd Mab y Dyn y bwyd hwn i chi, oherwydd arno ef mae Duw, y Tad, wedi rhoddi sêl ei awdurdod.”
28“Wel, beth sydd rhaid i ni ei wneud,” medden nhw, “i fedru gwneud gweithredoedd Duw?”
29Atebodd yr Iesu, “Yn syml, dyma’r hyn mae Duw am i chi ei wneud: Credu yn yr un mae ef wedi’i anfon.”
30“Ond pa arwydd y medri di ei roi i ni, fel y gallwn ni weld a’th gredu di?” medden nhw. “Pa waith a wnei di? 31Cafodd ein hynafiaid ni fanna yn y tir anial, fel mae’r Ysgrythur yn dweud, ‘Rhoddodd iddyn nhw fara o’r nefoedd i’w fwyta’.”
32Fe atebodd yr Iesu, “Clywch, y gwir yw, nid bod Moses wedi rhoi’r bara o’r nefoedd i chi, ond bod fy Nhad yn rhoi’r gwir fara o’r nefoedd i chi. 33Y bara mae Duw yn ei roi yw’r bara sy’n dod o’r nefoedd, ac yn rhoi bywyd i’r byd.”
34“Feistr,” medden nhw, “rho’r bara hwn i ni bob amser.”
35“Myfi yw bara’r bywyd,” meddai’r Iesu wrthyn nhw. “Pwy bynnag a ddaw ataf fi, fydd ef byth yn newynog, pwy bynnag a gred ynof fi, fydd ef byth yn sychedig chwaith. 36Ond rydych chi, fel roeddwn yn dweud, wedi fy ngweld i, ac eto heb gredu. 37Fe ddaw pob un a rydd y Tad i mi ataf fi, a phwy bynnag a ddaw ataf, wnaf fi byth mo’i droi i ffwrdd 38oherwydd rydw i wedi dod o’r nefoedd i wneud ewyllys yr hwn sydd wedi fy anfon, nid fy ewyllys fy hun. 39Ei ewyllys ef yw na chollwn i hyd yn oed un o’r rhai a roddodd i mi, ond eu codi nhw i fywyd newydd ar y dydd olaf. 40Yn wir, dyna yw ewyllys fy Nhad, fod i bob un sy’n gweld y Mab ac yn credu ynddo, gael y bywyd nefol: ac fe’i dyrchafaf ar y dydd olaf.”
41Yna dyma’r Iddewon yn grwgnach yn ei erbyn, am iddo ddweud, ‘Fi yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd.’ 42Ac medden nhw, “Onid Iesu, mab i Joseff, yw hwn? Rydym ni’n nabod ei dad a’i fam. Sut yn y byd mae e’n medru dweud, ‘O’r nefoedd y disgynnais’?”
43Atebodd yr Iesu, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd, da chi. 44Fedr neb ddod ataf fi os na chaiff ei ddenu gan y Tad, a’m hanfonodd: ac fe’i codaf ef i fywyd ar y dydd olaf. 45Mae wedi cael ei ysgrifennu yn y proffwydi, ‘Fe gân nhw i gyd eu dysgu gan Dduw.’ Bydd pob un a wrandawodd ar y Tad, a dysgu ganddo, yn dod ataf fi.
46“Nid bod neb wedi gweld y Tad. Yr hwn a ddaeth oddi wrth Dduw sydd wedi gweld y Tad, ac ef yn unig. 47Credwch chi fi, mae gan y sawl sy’n credu fywyd nefol. 48Fi yw’r bara sy’n rhoi bywyd. 49Fe fwytaodd eich hynafiaid chi y manna yn y tir anial, ond marw fu eu rhan. 50Ond rwy’n sôn am y bara sy’n dod o’r nefoedd, os bydd i rywun fwyta hwn ni fydd farw. 51Fi yw’r bara sy’n rhoi bywyd ac a ddaeth i lawr o’r nef; os bydd i rywun fwyta o’r bara hwn, fe fydd byw am byth. Yn wir y bara sy gennyf fi i’w gynnig yw fy nghnawd fy hun; fe’i rhoddaf dros fywyd y byd.”
52Ar hyn dyma ddadlau chwyrn ymhlith yr Iddewon, ac medden nhw, “Sut yn y byd y gall hwn roddi ei gnawd i ni i’w fwyta?”
53Atebodd yr Iesu nhw, “Mae’n berffaith wir, os na fwytewch chi gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fydd dim bywyd ynoch chi. 54Bydd bywyd y nefoedd yn eiddo i bwy bynnag fydd yn bwyta fy nghnawd ac yfed fy ngwaed, ac fe’i codaf i fywyd newydd ar y dydd olaf. 55Oherwydd mae fy nghnawd i yn wir fwyd, a’m gwaed i yn wir ddiod. 56Pwy bynnag sy’n bwyta fy nghnawd ac yn yfed fy ngwaed sy’n byw’n wastadol ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57Fel yr anfonodd y Tad byw fi — ac rwyf i’n byw oherwydd y Tad — felly pwy bynnag fydd yn fy mwyta i fydd byw o’m herwydd i. 58Dyma felly y bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd; nid fel y bara a fwytaodd eich hynafiaid: maen nhw wedi marw. Pwy bynnag fydd yn bwyta’r bara hwn bydd ef byw byth.”
59Fe ddywedodd yr Iesu hyn i gyd wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum.
Geiriau’r Bywyd Nefol
60Wedi clywed hyn meddai llawer o’i ddisgyblion, “Mae hyn yn galed i ni ei dderbyn. Pwy a all wrando ar beth fel hyn?”
61Fe wyddai’r Iesu ynddo’i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am yr hyn ddywedodd ef, ac felly gofynnodd, “Ydy hyn yn faen tramgwydd i chi? 62Beth pe baech chi’n gweld Mab y Dyn yn esgyn i’r lle roedd ef o’r blaen? 63Yr ysbryd yw’r hyn sy’n rhoi bywyd; dyw’r cnawd dda i ddim; mae’r geiriau rwyf i wedi’u dweud wrthych chi yn ysbryd ac yn fywyd. 64Ac eto mae rhai ohonoch heb gredu.”
Roedd yr Iesu’n gwybod o’r dechrau pwy na chredai, a phwy oedd yr un a’i bradychai. 65Ac meddai, “Dyma pam y dywedais i wrthych chi, na all neb ddod ataf i heb fod hynny wedi ei roi iddo gan y Tad.”
66O hyn allan, fe drodd llawer o’i ddisgyblion eu cefnau, a pheidio â gwneud dim byd mwy â’r Iesu. 67Felly gofynnodd yr Iesu i’r deuddeg, “Ydych chithau hefyd am fy ngadael i?”
68Atebodd Simon Pedr, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Geiriau’r bywyd nefol yw d’eiriau di. 69Rydym ni yn credu, ac yn gwybod mai ti yw Un Sanctaidd Duw.”
70Atebodd yr Iesu, “Oni ddewisais i chi i gyd, ddeuddeg ohonoch? Onid yw un ohonoch yn ddiafol?”
71Roedd ef yn siarad am Jwdas, mab Simon Iscariot. Ef, er ei fod yn un o’r deuddeg, oedd yn mynd i’w fradychu.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Ioan 6: FfN
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971