Ioan 8

8
Yr Iesu a’r wraig odinebus
1Fe aeth pawb i’w gartref ei hun, ond fe aeth yr Iesu i Fynydd yr Olewydd. 2Ar godiad haul aeth eto i’r Deml, ac o’i amgylch, fe gasglodd yr holl bobl. Roedd ef wedi eistedd ac yn dechrau dysgu, 3pan ddaeth athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid â gwraig i mewn. Roedd hi wedi’i dal yn godinebu. Wedi ei gorfodi hi i sefyll yn y canol, 4medden nhw wrtho, — “Athro, cafodd y wraig hon ei dal yn yr act o odinebu. 5Mae Cyfraith Moses yn dweud y dylai un fel hon gael ei llabyddio. Beth yw dy farn di?”
6Fe ofynson nhw hyn i’w faglu ef, gan obeithio cael cyhuddiad yn ei erbyn. Plygodd yr Iesu gan ysgrifennu ar y llawr â’i fys. 7Wrth iddyn nhw wasgu arno i ateb unionodd ac meddai, “Tafled pwy bynnag sy’n ddi-fai y garreg gyntaf ati.”
8Ac unwaith eto dyma’r Iesu’n plygu ac yn ysgrifennu ar y ddaear. 9Pan glywson nhw hyn, dyma nhw’n mynd allan, un ar ôl y llall, gan ddechrau gyda’r rhai hynaf. 10Gadawyd yr Iesu ar ei ben ei hun, a’r wraig yn dal i sefyll yn y canol. Ymunionodd yr Iesu eto, ac meddai wrthi, “Wraig, ble maen nhw? Oes yna neb wedi dy gondemnio di?”
11“Dim un, Syr,” meddai.
Ac meddai’r Iesu, “Dwyf finnau ddim chwaith; dos, ond paid â phechu fel hyn eto.”
Goleuni’r byd
12Unwaith eto fe siaradodd yr Iesu â’r bobl gan ddweud: “Fi yw goleuni’r byd. Fydd dim rhaid i bwy bynnag a ddaw ar fy ôl i ymbalfalu yn y tywyllwch, fe fydd ganddo oleuni’r bywyd.”
13“Ti sy’n dweud hyn amdanat dy hun,” meddai’r Phariseaid, “a dyw dy dystiolaeth di ddim yn wir.”
14Atebodd yr Iesu, “Hyd yn oed os fi sy’n dweud amdanaf fi fy hun, y mae fy ngair i’n sefyll oherwydd fe wn o ble y deuthum ac i ble rwy’n mynd. Wyddoch chithau ddim o ble rwy’n dod nac i ble rwy’n mynd. 15Rydych chi’n barnu yn ôl safonau dynion, ond dwyf fi ddim yn barnu neb. 16Ac os barnu a wnaf finnau, mae fy nyfarniad i’n gywir oherwydd nid fi ar fy mhen fy hun sy’n barnu, ond fi gyda’r Tad a’m hanfonodd i. 17Onid yw’ch Cyfraith chi’n dweud fod gair dau dyst yn sefyll? 18O’r gorau, dyma fi’n tystio i mi fy hun, a’r Tad a’m hanfonodd i’n tystio imi hefyd.”
19Fe ofynson nhw, “Ble mae dy dad?”
“Dydych chi ddim yn fy nabod i na ’Nhad; pe baech chi’n fy nabod i, fe fyddech chi’n nabod fy Nhad yn ogystal,” atebodd yr Iesu.
20Fe ddywedodd yr Iesu y geiriau hyn pan oedd ef yn dysgu yn y trysordy yn y Deml. Ond chymerodd neb ef i’r ddalfa; doedd ei awr benodedig ddim wedi dod eto.
Rhybuddio’r Iddewon eto
21Fe ddywedodd wrthyn nhw eto: “Fe fyddaf fi’n mynd i ffwrdd ac fe fyddwch chi’n chwilio amdanaf fi — ond marw a wnewch chi yn eich pechod. Ellwch chi ddim dod lle rwyf fi’n mynd.”
22Ac meddai’r Iddewon wedyn, “Ydy ef yn mynd i’w ladd ei hun, tybed? Ai dyma mae ef yn ei feddwl wrth ddweud, ‘Ellwch chi ddim dod lle rydw i’n mynd’?”
23Aeth yr Iesu yn ei flaen, “Rydych chi’n perthyn i’r byd isod, ond rwyf fi’n perthyn i’r byd uchod. Yn y byd hwn y mae’ch gwreiddiau chi — ond nid yma mae fy ngwreiddiau i. 24Dyna pam y dywedais i wrthych chi y byddech chi farw yn eich pechodau. A marw a wnewch chi yn eich pechodau os na chredwch chi ‘fy mod i yr hyn ydw i’.”
25A dyma nhw’n gofyn, “Pwy wyt ti?”
Atebodd yr Iesu, “A ydw i o’r dechrau yr hyn a ddywedaf wrthych? 26Mae gennyf fi lawer o bethau i’w dweud amdanoch ac i’w barnu yn eich cylch. Ond mae’r sawl a’m hanfonodd i yn gwbl ddiffuant, ac fe gyhoeddaf i’r byd yr hyn a glywais i ganddo ef.”
27Ond doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad â nhw am y Tad. 28Felly meddai’r Iesu eto, “Pan ddyrchefwch chi Fab y Dyn, fe ddowch chi i wybod ‘fy mod i yr hyn ydw i,’ ac nad ydw i’n gwneud dim ohonof fy hun, ond yn dweud popeth fel mae fy Nhad wedi fy nysgu. 29Mae’r sawl a’m hanfonodd yn bresennol gyda mi; adawodd ef mohonof fi wrthyf fy hun, oherwydd rydw i’n gwneud popeth wrth ei fodd ef bob amser.”
30Ac wrth iddo ddweud hyn fe droes llawer i gredu ynddo ef.
Yr Iesu ac Abraham
31Yna meddai’r Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi ei gredu, “Os arhoswch chi’n ffyddlon i’m dysgeidiaeth i, rydych chi’n wir ddisgyblion i mi; 32fe gewch chi wybod y gwir, ac fe fydd y gwir yn eich gwneud yn rhydd.”
33“Rydym ni yn ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuom ni erioed yn gaethweision i neb. Beth rwyt ti’n ei feddwl wrth ddweud, ‘Fe gewch chi eich gwneud yn rhydd’?”
34“Credwch chi fi,” meddai’r Iesu, “mae pawb sy’n gwneud drwg yn gaethwas i’r drwg; 35dyw’r caethwas ddim yn sicr o’i le gyda’r teulu am byth fel y mae’r Mab. 36Os bydd i’r Mab eich rhyddhau chi, fe fyddwch chi’n rhydd mewn gwirionedd.”
37“Fe wn i’n iawn mai disgynyddion Abraham ydych chi, eto i gyd rydych yn ceisio fy lladd i, oherwydd does ynoch chi 38ddim lle i’m dysgeidiaeth i. Rydw i’n siarad am yr hyn a welais i yng nghwmni fy Nhad — a chithau’n gwneud yn ôl a glywsoch gan eich tad chithau.”
39“Abraham yw’n tad ni,” oedd eu hateb nhw.
“Pe baech chi mewn difrif yn blant i Abraham,” meddai’r Iesu, “fe wnaech chi fel y gwnaeth ef. 40Y cyfan a wnes i oedd dweud wrthych y gwir fel y clywais ef gan Dduw, ond hyd yn oed nawr fe geisiwch chi fy lladd i. Nid fel yna y gwnaeth Abraham. 41Gweithredoedd eich tad eich hunain a wnewch chi.”
“Nid plant anghyfreithlon ydym ni,” medden nhw. “Un Tad sydd gennym a Duw yw hwnnw.”
42“Pe bai Duw yn Dad i chi,” meddai’r Iesu wrthyn nhw, “fe fyddech chi’n fy ngharu, oherwydd oddi wrth Dduw y deuthum i, a dyma fi. Ddeuthum i ddim ohonof fy hun — Duw a’m hanfonodd i. 43Pam nad ydych yn deall yr hyn a ddywedaf wrthych? Am nad oes gennych chi glust i’m neges i. 44Eich tad chi yw’r diafol, ac ar gyflawni dymuniadau eich tad mae’ch bryd. O’r dechrau llofrudd oedd ef. Safodd ef erioed o blaid y gwirionedd, oherwydd does dim gwirionedd yn perthyn iddo. Mae dweud celwydd yn naturiol iddo — celwyddog yw ef, a thad pob celwydd. 45Ond am i mi ddweud y gwir, dydych chi ddim yn fy nghredu i. 46Pwy ohonoch chi sy’n mynd i brofi fy mod yn euog o fai? Os wyf fi’n dweud y gwir, pam na chredwch chi fi? 47Mae plentyn Duw yn gwrando geiriau Duw. Dyma pam na wrandewch chi — dydych chi ddim yn blant i Dduw.”
48Meddai’r Iddewon, “Onid ydym ni’n iawn yn dweud mai Samariad wyt ti, a’th fod â’r cythraul ynot?”
49“Nid oes cythraul ynof; parchu fy Nhad rwyf fi ond rydych chi’n f’amharchu i. 50Dwyf fi ddim yn ceisio anrhydedd i mi fy hun, fe ofala un arall am hynny, ac ef sy’n barnu. 51Credwch chi fi, pwy bynnag fydd yn ufudd i’m dysgeidiaeth, ni chaiff wybod beth fydd marw.”
52Ac meddai’r Iddewon, “Nawr fe wyddom dy fod â’r cythraul ynot. Bu Abraham farw, bu’r proffwydi farw, a dyma ti’n dweud, ‘Pwy bynnag fydd yn ufudd i’m dysgeidiaeth ni chaiff brofi marwolaeth byth.’ 53Dwyt ti ddim yn meddwl dy fod ti’n fwy na’n tad Abraham sydd wedi marw, wyt ti? A bu’r proffwydi farw hefyd. Pwy wyt ti’n feddwl wyt ti?”
54Atebodd yr Iesu, “Pe bawn i’n canmol fy hun, fyddai hynny dda i ddim. Yr un sy’n fy anrhydeddu i yw fy Nhad — yr union un y dywedwch chi amdano, ‘Ein Duw ni yw ef.’ 55A dydych chi ddim yn ei nabod ef, ond rwyf i’n ei nabod: pe bawn yn dweud nad wyf yn ei nabod byddwn yn gelwyddog fel chi. Ond mewn gwirionedd rwyf yn ei nabod, ac yn ufuddhau iddo. 56Fe fu’n falch odiaeth gan eich tad Abraham weld fy nydd — fe’i gwelodd a bu lawen.”
57Meddai’r Iddewon, “Wyt ti ddim yn hanner cant oed eto. Sut gelli di fod wedi gweld Abraham?”
58“Yn wir, yn wir i chi,” atebodd yr Iesu, “cyn i Abraham gael ei eni, yr wyf fi.”
59Ar hyn dyma nhw’n codi cerrig i’w taflu ato, ac fe ymguddiodd yr Iesu, a mynd allan o’r Deml.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Ioan 8: FfN

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้